Eisteddfod Wrecsam 2011 wedi gwneud colled.
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Wrecsam eleni golled ariannol.
Dyw'r union ffigwr heb ei gadarnhau gan yr Eisteddfod, ond deellir y gallai fod yn ddegau o filoedd o bunnoedd.
Daeth y wybodaeth gan yr Eisteddfod ar wefan Twitter ddydd Iau.
Roedd y golled, meddai'r trydar, "incwm cyngherddau, stondinau a nawdd mewn cyfnod anodd wedi creu colled i'r Eisteddfod, nid costau artistiaid. Dim mwy tan dydd Sadwrn."
Bydd Cyngor yr Eisteddfod yn trafod y sefyllfa yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd fod y ffigwr swyddogol heb gael ei gadarnhau eto.
Y llynedd fe wnaeth Eisteddfod Blaenau Gwent golled o 拢47,000.
Rhwng 2006 a 2009 fe wnaeth yr 诺yl flynyddol elw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr Eisteddfod wedi derbyn cymhorthdal o 拢493,000 ar gyfer 2011-12 drwy law Bwrdd yr Iaith.
Hefyd fe roddwyd 拢25,000 ar gyfer cynllun oedd yn caniat谩u i'r Eisteddfod gynnig 10,000 o docynnau ar bris gostyngedig.