Rhybudd gweinidog na fydd mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud na fydd arian ar gael i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru pe bai'n mynd i ddyled.
Dywedodd Lesley Griffiths fod y blynyddoedd o gefnogi'r byrddau iechyd lleol ar ben a bod rheolwyr yn gwybod bod rhaid cyrraedd targedau ariannol.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, bydd y byrddau yn derbyn arian o flaen llaw.
Ychwanegodd y gweinidog y byddai newid i'r modd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn eu gwneud yn fwy cynaliadwy.
Wrth gael ei chyfweld ar 大象传媒 Radio Wales fore Gwener, gofynnwyd iddi a fyddai byrddau iechyd yn gorfod newid eu hymddygiad.
"Yn bendant. Cyn gynted ag y dechreuais ar y gwaith yma ym mis Mai, roedd hynny'n un o'r sgyrsiau cyntaf a gefais," meddai.
"Blwyddyn ar 么l blwyddyn, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae'n rhaid eu cynorthwyo'n ariannol.
Codi disgwyliadau
"Yr hyn yr wyf wedi ei wneud eleni yw llwyddo i gael arian at y byrddau yn gynt fel y gallen nhw edrych ar eu sefyllfa ariannol, ac rwyf wedi gorfod datgan yn glir iawn fod rhaid iddyn nhw gyrraedd targedau ariannol eleni.
"Does ganddo ni ddim mwy o arian ac maen nhw'n gwybod hynny felly maen nhw'n gwybod fod rhaid cyrraedd y targedau."
Ychwanegodd fod strwythur presennol gwasanaethau iechyd wedi gorfod newid oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, cyfyngiadau ariannol a disgwyliadau uwch gan gleifion.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhybuddio fod y gwasanaeth yng Nghymru yn wynebu setliad anoddach na gweddill y DU.
Mae cyllideb iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru - yr adran ddrytaf yn nhermau gwariant - yn wynebu toriad mewn termau real yn y blynyddoedd i ddod.
Mae byrddau iechyd yn cynllunio i ad-drefnu a gwella gwasanaethau, gyda'r tebygrwydd y bydd rhaid i rhai cleifion deithio yn bellach ar gyfer rhai triniaethau arbenigol.
Dywedodd Ms Griffiths ar raglen Good Morning Wales ei bod hi'n amser "i ail-gloriannu'r ddarpariaeth o lawer o'n gwasanaethau ac i newid ymddygiad a ffordd o feddwl pobl".
Ond pwysleisiodd y bydd ysbytai cyffredinol rhanbarthol yn cadw "r么l hanfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011