大象传媒

Papurau lleol 19eg ganrif ar y we

  • Cyhoeddwyd
Sganio papurau newyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd 650m o erthyglau ar gael ar y wefan erbyn diwedd y prosiect yn 2021

Mae hyd at 4 miliwn o dudalennau papurau lleol ar gael i'r cyhoedd mewn prosiect digidol newydd gan y Llyfrgell Brydeinig.

Ym mhlith yr erthyglau o'r 19eg ganrif bydd rhai o'r Faner ac Amserau Cymru, Y Goleuad a'r Genedl Gymreig.

Mae rhai rhifynnau'n dyddio'n 么l i'r 18fed ganrif, gan roi cyfle i'r cyhoedd archwilio straeon am wleidyddiaeth, trosedd ac adloniant y cyfnod.

Gyda chymorth y cwmni Brightsolid, mae'r llyfrgell yn gobeithio cyhoeddi dros 650m o erthyglau erbyn 2021.

"Bydd yn adnodd gwych," meddai Ed King, pennaeth papurau newyddion y Llyfrgell Brydeinig, ac ychwanegodd bod cyfle hefyd i archwilio'r Western Mail, Wrexham Advertiser, North Wales Chronicle a sawl rhifyn o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

"Bydd gallu i gymharu straeon yn y Gymraeg a Saesneg yn ddiddorol iawn i bobl Cymru.

"Dwi wedi chwilio am straeon yn ymwneud 芒'r Eisteddfod, ac wedi dod o hyd i gannoedd.

"Mae yna hefyd lot o wybodaeth am fywyd yn y pyllau glo, gan gynnwys y trychinebau. Ond hefyd erthyglau bychain ond o nod, fel un o 1796 sy'n hysbysebu gwerthiant un o byllau glo cyntaf yr ardal, mae'n si诺r."

Mae'r llyfrgellydd hefyd yn dweud bydd yr Archif Papurau Newydd Prydeinig yn 'ffynhonnell wych' i'r rhai sy'n ymchwilio hanes teulu.

Wrth chwilio gydag enw, dyddiad neu leoliad, gellir dod o hyd i wybodaeth am hynafiaid drwy'r coflithoedd a hysbysiadau teuluol eraill.

Corsedau atal bwledi

Gan nad oedd llawer o luniau yn y papurau h欧n, roeddent arfer cofnodi pob manylyn o fywyd cymdeithasol, gan gynnwys pwy oedd wedi mynychu cyfarfod capel, a pha bynciau a drafodwyd.

"Rydym wedi datguddio trysorau cenedlaethol ar bron pob tudalen," meddai Chris van d锚r Kuyl, prif weithredwr Brightsolid.

"Mae pob elfen o fywyd dynol yma, gan gynnwys dyn a benderfynodd gerdded o gwmpas y byd mewn masg haearn, hysbyseb am gorsedau oedd yn atal bwledi a sut i ddwyn o siopau gyda chymorth llewys llydan!

"Gyda'i gilydd, mae'r 65m o erthyglau sydd ar gael ar-lein heddiw yn adrodd stori Prydain ac rydym yn ychwanegu 120,000 o straeon pob dydd.

"Felly bydd cyfle i weld sut oedd bywyd ar eich stryd neu yn eich tref chi dros y blynyddoedd."

Mae'r gwaith yma'n rhan o waith archifo papurau newydd y Llyfrgell Brydeinig, sydd am symud y casgliad o'i phencadlys yn Llundain i storfa arbennig yn Swydd Efrog.

Gellir archwilio'r wefan am ddim, ond rhaid talu er mwyn gallu lawrlwytho erthyglau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol