大象传媒

Lynette White - Y Cefndir

  • Cyhoeddwyd
Lynette WhiteFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lynette White, 20, ei llofruddio ar Chwefror 14, 1988

Cafodd Lynette White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat uwchben siop fetio yn ardal Trebiwt o Gaerdydd ar ddydd San Ffolant 1988.

Roedd wedi ei thrywanu mwy na 50 o weithiau.

Daeth yr achos llys a ddilynodd yn un o'r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder ar 么l i dri dyn lleol gael eu carcharu ar gam.

Yn 1990 cafodd Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, Tri Caerdydd, eu carcharu am oes.

Cafodd y dyfarniad ei ddiddymu ddwy flynedd yn ddiweddarach yn dilyn ap锚l.

Yna yn 2003, 15 mlynedd ar 么l y llofruddiaeth, fe wnaeth Jeffrey Gafoor, 38 oed o Lanharan gyfaddef i ladd Ms White ar 么l cael ei ddal drwy brawf DNA newydd.

Ar 么l achos Gafoor fe dderbyniodd Tri Caerdydd ymddiheuriad llawn gan Brif Gwnstabl Heddlu'r De.

Cafodd Ms White ei thrywanu dros 50 o weithiau gan Gafoor ar 么l iddo newid ei feddwl yngl欧n 芒 thalu am ryw.

Ar 么l achos Gafoor fe wnaeth Heddlu'r De gychwyn ymchwiliad o'r newydd i "ddod at wraidd yr hyn a ddigwyddodd yn yr ymchwiliad gwreiddiol a pham".

O fewn 10 mis i ddechrau'r ymchwiliad cafodd 100,000 o dudalennau o wybodaeth eu hail ymchwilio a chasglwyd 155 o ddatganiadau newydd.

Roedd Gafoor ymhlith y tystion, dioddefwyr a'r rhai o dan amheuaeth sydd wedi cael eu cwestiynu.

Cafodd ffeiliau ar 11 o bobl eu cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Penderfynwyd dwyn achos yn erbyn tri o bobl am roi tystiolaeth ffug yn yr achos gwreiddiol - Mark Grommek, 50, Leanne Vilday, 40, ac Angela Psaila, 43.

Plediodd y tri yn euog.