大象传媒

Pont: Costio 拢900,000 yn fwy na'r disgwyl

  • Cyhoeddwyd
Pont MaesduFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffigyrau yn awgrymu bod y cyngor eisoes wedi gwario 拢3.8m ar y cynllun

Mae pont newydd yn Llandudno wedi costio dros 拢900,000 yn fwy na'r disgwyl.

Mae pont Maesdu ger Traeth y Gorllewin yn cysylltu dwy ran o'r dref.

Cafodd ei hail agor ym mis Medi 2010 ar wedi iddi gael ei hailadeiladu'n gyfan gwbl.

Mae ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau gan Gyngor Conwy yn awgrymu bod y cyngor eisoes wedi gwario 拢3.8 miliwn ar y cynllun

Mae anghydfodau cyfreithiol yn golygu nad ydi gwir gost yn mynd i fod yn amlwg am beth amser.

Problemau

Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i Gyngor Conwy am eu hymateb.

Dechreuodd y gwaith ar y bont newydd, sy'n croesi rheilffordd, wrth ddymchwel yr hen bont ym mis Hydref 2009.

Ar y pryd cafodd 拢2,966,766 ei glustnodi ar gyfer y prosiect.

Ond erbyn mis Mai 2010 rhybuddiodd adroddiad i'r cyngor y byddai'n debygol i'r gost fod 拢500,000 yn fwy na'r disgwyl.

Mae 大象传媒 Cymru wedi astudio'r biliau a gafodd eu talu gan Gyngor Conwy tan ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf ym mis Ebrill 2011 sy'n awgrymu bod y gwaith wedi costio dros 拢920,000 yn fwy na'r cyllid a gafodd ei glustnodi pan gafodd y cytundeb i adeiladu'r bont ei ddyfarnu.

Mae'r cyngor eisoes wedi datgan fod cost y prosiect wedi cynyddu oherwydd problemau ynghylch dyluniad y bont.

Ymchwiliad mewnol

Mae'r cyngor wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn ymgynghorwyr i adennill rhan o'r arian maen nhw wedi talu iddyn nhw.

Nid yw'r cyngor na'r ymgynghorwyr wedi cynnig unrhyw sylwadau yngl欧n 芒'r achos cyfreithiol nac ynghylch amserlen yr achos.

Mae trafodaethau yn parhau rhwng y cyngor a'r contractwyr ynghylch taliadau mae'r contractwyr yn honni sy'n ddyledus iddyn nhw.

Mae'r cyngor eisoes wedi cynnal ymchwiliad mewnol ynghylch cynllun y bont.

Argymhellodd yr ymchwiliad 13 newid i'r ffordd y byddai cynlluniau tebyg yn cael eu rheoli yn y dyfodol.

Canfu'r ymchwiliad "nad oedd prosesau monitro yn ddigonol" a "ni chanfu mewn pryd y byddai ffioedd ymgynghorol yn fwy na'r gyllideb a gafodd ei chymeradwyo".

Ychwanegodd yr adroddiad: "Nid oedd lawer o dystiolaeth ar bapur i ddynodi bod y gwaith ychwanegol a gafodd ei wneud gan yr ymgynghorwr y tu hwnt i'r cyfarwyddyd gwreiddiol wedi ei herio na'i reoli'n briodol.

"Yn ogystal, canfu'r ymchwiliad fod rhai treuliau mawrion wedi cael eu hesgeuluso.

"Yn anffodus methodd y cynigion achos busnes gwreiddiol rhoi cyfrif am yr holl gostau oedd yn gysylltiedig 芒'r cynllun gan gynnwys ffioedd ymgynghori, costau cyfleustodau cyhoeddus o 拢145,000 a chost o 拢80,000 ar gyfer y ddarpariaeth o fws gwennol gan Arriva tra oedd y cynllun ar waith," dywed yr adroddiad.

Codwyd yr hen bont yn y 1920au, ac roedd cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar gerbydau oedd yn teithio drosti.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol