Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cerddorion yn dod a'u streic dridiau i ben
Mae Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n parhau gyda streic dridiau wedi trafodaethau.
Roedd rhai o gerddorion Cymru wedi mynd ar streic ddydd Llun a oedd i barau tan nos Fercher gan wrthod caniat谩u i Radio Cymru ddarlledu eu caneuon oherwydd ffrae yngl欧n 芒'r breindaliadau sy'n cael eu rheoli gan Gymdeithas Hawliau Perfformio PRS.
Mae'r cerddorion yn anhapus gyda'r arian y maen nhw'n ei gael am ddarlledu eu gwaith.
Ond wedi trafodaethau gyda'r orsaf yn ystod y dydd mae'r streic wedi dod i ben am y tro.
Dadl y cerddorion oedd eu bod yn derbyn taliadau "pitw" gan y 大象传媒 am ddefnyddio eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.
Fe gododd y problemau wedi i'r PRS (Performing Rights Society) newid y fformiwla sy'n cael ei defnyddio i dalu am gerddoriaeth sy'n cael ei darlledu yng Nghymru.
Parchu dymuniadau
Roedd 大象传媒 Radio Cymru wedi dweud cyn i'r streic ddod i ben eu bod yn gwneud popeth posib i geisio datrys yr anghydfod.
Roedden nhw wedi dweud bod y brotest yn "siomedig...ar 么l dyddiau lawer o drafod, a chynnig oedd yn cyflawni mwyafrif helaeth gofynion y cerddorion".
Dywedodd yr orsaf eu bod wedi addasu'r rhaglen gerddoriaeth ar gyfer ddydd Llun, gan geisio parchu dymuniadau'r cerddorion, ond na ellid fod wedi cynnal y sefyllfa am dridiau.
Wrth gadarnhau na fydd y streic yn parhau am y tro, dywedodd Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Cwmni Sain, bod y penderfyniad gan y PRS a'r 大象传媒 i gynnwys "gwerth economaidd" i'r taliadau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod ar Ionawr 12 yn allweddol yn eu penderfyniad i atal y streic.
Ond ychwanegodd nad dyma ddiwedd y mater ac y byddan nhw'n adolygu'r sefyllfa wedi'r cyfarfod.
Wedi'r cyhoeddiad dywedodd Si芒n Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg 大象传媒 Cymru, ei bod yn croesawu'r ffaith y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal.
"Dyma fydd y tro cyntaf i uwch swyddogion y tair ochr ddod at ei gilydd i drafod.
"Mae'n gyfle gwirioneddol i ni ddatrys y broblem.
"Mae'n bwysig i Radio Cymru a'r gynulleidfa ein bod yn cael y drafodaeth a'n bod yn datrys y sefyllfa."
Cynhaliodd y cerddorion streic debyg ar Fawrth 1, ond y tro hwn bydd y brotest yn para tridiau ac mae'r gynghrair yn bwriadu targedu ymddiriedolwyr y 大象传媒.