大象传媒

Dyn busnes: Euog o ddadlwytho gwastraff

  • Cyhoeddwyd
William O'GradyFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhaid i William O'Grady wneud 300 awr o waith di-d芒l

Mae perchennog cwmni llogi sgipiau wedi cael dedfryd ohiriedig o 12 mis o garchar am ddadlwytho gwastraff gan arbed hyd at 拢1.5 miliwn o daliadau i'w hun.

Dadlwythodd William O'Grady tua 29,000 tunnell o wastraff adeiladu mewn dau safle ger Caernarfon.

Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud 芒'r safleoedd ym Mryn Awelon, Llanfaglan, ger Caernarfon yn 2007 a ger cartref O'Grady yn Nhyddyn Whisgin, Caeathro yn 2008.

Cafwyd O' Grady yn euog yn Llys y Goron Caer wedi achos llys a barodd dair wythnos.

Gwastraff pydredig

Bydd rhaid iddo wneud 300 awr o waith di-d芒l.

Cafodd y cyhuddiadau eu dwyn yn erbyn O' Grady a dau gwmni mae'n berchen, sef Gwynedd Skip Hire ac WM O'Grady haulage and Plant Hire.

Clywodd y llys fod y gwastraff adeiladu y dadlwythwyd gan O'Grady yn cynnwys briciau, plastig, pren, gwydr, plastr a ffibrau inswleiddio.

Dadlwythodd tua 27,500 tunnell ar safle Tyddyn Whisgin a 1,500 tunnell ar safle Bryn Awelon.

Dywedodd yr erlyniad fod y tir ym Mryn Awelon, ger gwarchodfa natur Bae'r Foryd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cytunodd O'Grady fod gwastraff ar y safle ond honnodd nad ef na'i gwmn茂oedd oedd wedi ei osod yno.

Diystyrwch haerllug

Clywodd y llys fod y gwastraff yn Nhyddyn Whisgin yn cynhyrchu trwytholch - sef hylif llygredig a gynhyrchir gan wastraff pydredig - a swigod o nwy ymwaredig oedd o bosib yn hydrogen sylffid.

Dywedodd O'Grady nad oedd y sylwedd yn wastraff ond yn sylwedd diniwed a ddefnyddiwyd i wella'r tir.

Yn ystod yr achos llys dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod y gwastraff wedi ei lygru ac yn fygythiad i fywyd gwyllt a phobl oedd yn byw'n gyfagos i'r safle.

Wedi'r achos llys, dywedodd Si芒n Williams o Asiantaeth yr Amgylchedd: "Mae'n anghyfreithlon ac yn anghyfrifol i osod gwastraff llygredig ar dir fferm yn y modd hwn.

"Roedd yr amddiffynnydd yn gwybod hyn ond fe benderfynodd ddal ati gyda'i weithred gan ddangos diystyrwch haerllug i'r ffermwr a'i amgylchedd.

"Mae'r cyfreithiau hyn yn gwarchod yr amgylchedd ac yn sicrhau bod cwmn茂au yn gweithredu'n gyfreithlon.

"Tanseiliodd y diffynnydd cwmn茂au gwastraff cyfreithlon cyfrifol gan ymddwyn fel ag y gwnaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol