大象传媒

Bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystyried newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog Philip, LlanelliFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysbyty'r Tywysog Philip yn llanelli yn wynebu toriadau i'w gwasanaethau

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i rai cleifion deithio ymhellach ar gyfer triniaeth frys o ganlyniad i newidiadau sy'n cael eu hystyried ar gyfer pedwar ysbyty yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.

Fe fyddai adran ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cael ei hisraddio i "ganolfan gofal brys" o dan bob un o opsiynau sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae'r bwrdd yn adolygu eu gwasanaethau gan gynnwys adrannau ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Dywed y Bwrdd nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ac fe fyddan nhw'n ymgynghori'n eang.

Awgrymiadau

Ond maen nhw wedi datgan nad yw'r model presennol ar gyfer gwasanaethau brys ac unedau gofal dwys yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gynaliadwy.

Mae'r bwrdd wedi cyhoeddi dogfen drafod sy'n cynnwys nifer o awgrymiadau gan glinigwyr.

Ar hyn o bryd mae'r bwrdd yn cynnig tri opsiwn ond maen nhw wedi dweud y gallai syniadau newydd gael eu hychwanegu i'r cynllun.

Byddai uned gofal ddwys Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cael ei hisraddio i ganolfan gofal brys ym mhob o bob un o'r tri opsiwn.

Yn 么l y bwrdd nid oes llawdriniaethau brys yn cael eu cynnal yn yr uned ac mae cleifion 999 eisoes yn cael eu cludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Treforys yn Abertawe.

'Allweddol'

O dan y cynnig arfaethedig mae'r bwrdd yn honni y byddai 80% o wasanaethau'r uned yn parhau.

Mewn dogfen y mae'r Bwrdd yn son am yr angen i wneud newidau.

"Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth yma yn cynorthwyo'r cyhoedd i ddeall pam fod newid mor allweddol o fewn y bwrdd," meddai'r Prif Weithredwr Trevor Purt.

"Rydym eisiau pwysleisio nad oes 'na unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ac yn gobeithio y bydd yn arwain at ein cynlluniau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, diogel a chynaliadwy i'r dyfodol."

Mae saith bwrdd iechyd Cymru yn wynebu diffyg yn eu cyllideb o hyd at 拢50m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu diffyg yn eu cyllideb o 拢4m er iddynt dderbyn 拢33m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Yn gynharach yn y mis daeth adroddiadau bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi cau Uned Man Anafiadau mewn dau ysbyty, Ysbyty Ddinbych-y-pysgod a De Sir Benfro, er mwyn cynnal y gwasanaeth brys yn Ysbyty Llwynhelyg

Yn 么l y bwrdd fe fydd y cynllun yn dod i rym ar Ionawr 3 2012.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol