大象传媒

'Dylai Cymru dorri ei chwys ei hun' yn 么l arweinydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ieuan Wyn Jones ACFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Mr Jones yn ildio arweinyddiaeth Plaid Cymru yn 2012

"Mae Cymru yn wynebu amseroedd economaidd cythryblus, ond mae ganddi'r cyfle i gryfhau ei democratiaeth a'r sbardunau sydd ganddynt i ymdrin ag amseroedd anodd."

Dyma un o'r prif bynciau a godwyd yn neges Nadolig eleni gan arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Rhybuddiodd Mr Jones, a fydd yn ildio arweinyddiaeth ei blaid ym mis Mawrth 2012, fod yr argyfwng ym mharth yr Ewro dros y chwe mis diwethaf wedi arwain at adolygiad tuag i lawr mewn twf economaidd yn y DU, a bydd hyn yn arwain ar fwy o ddiweithdra yn enwedig ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

Mae'r her a greodd hyn i Lywodraeth Cymru yn golygu bod angen i Gymru wthio'n galetach fyth yn 2012 am fwy o reolaeth dros ei materion ei hun.

'Mwy uchelgeisiol'

"Cyfyngir yn arw ar ein gallu i ymateb i'r argyfwng oherwydd nad oes gennym ar hyn o bryd bwerau i fenthyca ar gyfer seilwaith cyfalaf, ac nad oes gennym y sbardunau cyllidol i'w defnyddio yn greadigol i hybu'r galw yn ein heconomi," meddai.

"Dyna pam fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol dros Gymru wrth ymateb i'r alwad am dystiolaeth gan Gomisiwn Silk.

"Petai gan Gymru bwerau benthyca ac amrywio treth, gallasem wneud llawer mwy i helpu ein dinasyddion oroesi'r stormydd ariannol.

"Mae angen i ni fod yn fwy arloesol a chreadigol wrth helpu pobl Cymru i ateb her y blynyddoedd nesaf.

'Goddefgarwch'

"Adeg y Nadolig rhaid i ni hefyd edrych y tu hwnt i'n ffiniau a gweithio yn galetach fyth i gael mwy o oddefgarwch rhwng crefyddau'r byd a gwahanol draddodiadau gwleidyddol a chymdeithasol.

"Gwelodd 2011 newidiadau mawr yng ngwledydd Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, gyda gwledydd yn chwilio am fwy o ddemocratiaeth a rhyddid.

"Maen nhw'n wynebu her enfawr a bydd angen i ni eu cefnogi yn eu hymdrechion i greu strwythurau gwleidyddol newydd yn eu gwledydd.

"Gwelodd Ewrop hefyd amseroedd cythryblus yn 2011 gyda llywodraethau yn cwympo neu rai newydd dyn dod yn eu lle mewn nifer o wledydd gan gynnwys Iwerddon, Portiwgal, Gwlad Groeg, Sbaen a'r Eidal.

"Mae i doriadau enfawr mewn gwario cyhoeddus a chamau ariannol llym 芒'r potensial i greu aflonyddwch cymdeithasol a chynnwrf gwleidyddol mwy fyth.

"Gall dinasyddion cyffredin yn hawdd deimlo'n flin gyda thoriadau yn eu safonau byw wrth i lywodraethau ymateb i argyfwng a gr毛wyd gan y sector ariannol a'r bancwyr barus.

"Rhaid i arweinyddion gwleidyddol ddangos fod y penderfyniadau a gymerant i ymdrin 芒'r argyfwng yn deg a chymesur, ac ni ddylem oddef talu bonysau pechadurus o ddrud i fancwyr pan fo mwy a mwy o bobl yn wynebu colli eu swyddi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol