Y Talwrn yn 么l ar newydd-wedd

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Wrth y llyw y bydd y Meuryn newydd, Ceri Wyn Jones

Gyda'r gerddoriaeth gyfarwydd ar ei newydd wedd, cystadleuaeth newydd Trydargerdd a Meuryn newydd sbon, bydd Y Talwrn yn dychwelyd i 大象传媒 Radio Cymru ar Ionawr 15.

Bydd y gyntaf yn y gyfres yn cael ei recordio yng Nghaffi'r Emlyn, Tan-y-groes, ar Ionawr 10 gyda thimau Crannog a Than-y-groes yn wynebu'i gilydd a'r Prifardd Ceri Wyn Jones yn ei le fel y Meuryn newydd.

Mae'n olynu Gerallt Lloyd Owen a ymddeolodd y llynedd wedi 32 flynedd fel Meuryn y gyfres.

Nos Sul Ionawr 8 roedd Ceri Wyn yn trafod yr her newydd ar raglen Dei Tomos ac yn datgelu pa mor werthfawr yr oedd y gyfres iddo fel bardd.

"Fel y gweddill ohonon ni, bu'r Talwrn wrthi'n gwneud addunedau blwyddyn newydd," meddai Ceri Wyn.

"Ond rhyw f芒n newidiadau yw'r rhain yn y b么n oherwydd, wedi'r cwbwl, rhan o ap锚l y rhaglen yw ei fformat glir a chyfarwydd.

Cerddoriaeth y Cowbois

"Rwy'n edrych 'mlaen at y gyfres newydd, ac at weld gwrandawyr a chystadleuwyr newydd yn ymuno 芒'r ffyddloniaid sydd wedi sicrhau llwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd."

Mae cerddoriaeth Y Talwrn hefyd wedi ei newid gan y band poblogaidd o Ben Ll欧n, Cowbois Rhos Botwnnog.

Un elfen newydd sbon yw'r 'Drydargerdd' lle bydd beirdd yn ysgrifennu cerdd wedi ei chyfyngu i 140 llythyren fel neges Trydar.

Mae cynhyrchwyr y gyfres yn awyddus i fynd 芒'r rhaglen i bob cornel o Gymru ac yn gwahodd cymdeithasau a chlybiau i gysylltu 芒 nhw.

Y cyfeiriadau cysylltu yw ytalwrn@bbc.co.uk neu Y Talwrn, 大象传媒 Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 1BH.

Mae manylion recordio a darlledu'r gyfres i'w cael yma.

Rhaglen Dei Tomos nos Sul, Ionawr 8, 大象传媒 Radio Cymru am 5.30pm.

Y Talwrn, Dydd Sul, Ionawr 15, 大象传媒 Radio Cymru, 6.45pm