Adolygiad: Rhybudd cadeirydd adolygiad
- Cyhoeddwyd
Mae angen i rai o wleidyddion Plaid Cymru wella'u perfformiad fel llefarwyr polisi, yn 么l cadeirydd adolygiad.
Dywedodd Eurfyl ap Gwilym fod rhai ymgeiswyr y blaid wedi perfformio'n siomedig cyn Etholiad y Cynulliad y llynedd.
Cafodd adolygiad ei gomisiynu wedi i'r blaid golli seddau yn y Senedd fis Mai a nhw oedd y drydedd blaid tu 么l i Lafur a'r Ceidwadwyr.
Mae angen i rai o fewn y blaid "dorchi llewys", meddai.
Dywedodd ei adolygiad fod "gormod o lefarwyr y blaid heb y gallu na'r hyder i gyflwyno ein polis茂au".
Ychwanegodd y dylai "fod yn amod eu bod yn datblygu dealltwriaeth lawn o'u pwnc eu hunain ond hefyd yn cael eu briffio am ystod lawn polis茂au'r blaid".
'Perfformiadau gwan'
Ar raglen Dragon's Eye 大象传媒 Cymru dywedodd: "Rwy'n feirniadol iawn o rai ymgeiswyr ac mae perfformiadau rhai llefarwyr ar rai pynciau wedi bod yn wan.
Nid oedd yn fodlon enwi neb ond dywedodd: "Maen nhw'n gwybod pwy ydyn nhw.
"Yn sicr, mae angen iddyn nhw dorchi llewys neu ddylen nhw ddim bod yn ymgeiswyr nac yn llefarwyr."
Arweinydd
Mae ei adolygiad yn cynnwys 95 o argymhellion ac awgrym y dylai'r blaid newid ei enw Saesneg i'r Welsh National Party er mwyn chwalu'r ddelwedd mai plaid i siaradwyr Cymru yn unig ydyw.
Daw'r adroddiad wrth i'r blaid chwilio am arweinydd newydd yn lle Ieuan Wyn Jones.
Cyhoeddodd yntau y byddai'n ildio'r arweinyddiaeth wedi canlyniadau siomedig Plaid Cymru mewn dau etholiad.
Mae pedwar Aelod Cynulliad yn y ras i'w olynu. Bydd y rhestr enwebiadau yn cau ar Ionawr 26.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012