Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Estyn: Pobl h欧n yn colli cyfleoedd
Mae pobl oedrannus yng Nghymru yn colli cyfleoedd i ddysgu am ffyrdd i wella ansawdd eu bywydau, yn 么l adroddiad newydd.
Dywed Estyn, y corff sy'n arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, fod cyrsiau yn cael eu hanelu at sgiliau ar gyfer swyddi.
Mae'r corff yn annog newidiadau gan gynnwys cyflwyno cyrsiau gwell ac y dylai Llywodraeth Cymru annog cydweithio gwell.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi'u hymrwymo i addysg gydol oes ond bod rhaid cael cydbwysedd gyda datblygu sgiliau a thaclo diweithdra ymysg pobl ifanc.
Bywiog
Mae 15 partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned (ACL) yng Nghymru yn darparu dysgu gydol oes i ddysgwyr h欧n yn y gymuned.
Dywed yr adroddiad fod y pwyslais ar ddatblygu sgiliau ar gyfer swyddi ac nad yw hyn yn addas i ddysgwyr h欧n, sydd 芒 mwy o ddiddordeb mewn cyrsiau sy'n datblygu sgiliau crefft neu hob茂au, neu gyrsiau sydd yn eu helpu i gynnal bywyd iach a llesol.
Dywedodd prif arolygwr Estyn, Ann Keane, fod y cyrsiau wedi helpu dysgwyr h欧n, di-waith, rhwng 50 oed a 65 oed i gael swyddi.
"Ond does dim digon o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr sydd wedi cyrraedd oed ymddeol," meddai.
"Mae dysgwyr h欧n am barhau i ddysgu am ei fod yn ei helpu i ddal ati i fod yn fywiog ac yn annibynnol ac yn eu galluogi i gwrdd ag aelodau eraill o'r gymuned yn rheolaidd."
'Diffyg strategaeth'
Ychwanegodd Ms Keane ei fod yn hanfodol bod partneriaethau ACL yn arolygu ac ehangu amrywiaeth y cyrsiau a gynigir i bobl, yn enwedig ar gyfer y rheiny sydd dros 70 oed.
Canfu Estyn fethiannau yn y cydweithrediad rhwng gwasanaethau addysg, iechyd a chymdeithasol i gefnogi lles bobl h欧n.
Yn 么l yr adroddiad, mae gan adrannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddiffyg strategaeth i gwrdd ag anghenion poblogaeth h欧n sy'n cynyddu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na allai gynnig sylw manwl am nad oeddent wedi derbyn yr adroddiad llawn eto.
"Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddysgu gydol oes ond mae'n rhaid cael cydbwysedd 芒 datblygu sgiliau a thaclo diweithdra ymysg pobl ifanc," ychwanegodd.