大象传媒

Darganfod dogfennau 'coll'

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cyhoeddi ei bod hi wedi dod i'r amlwg nad oedd tystiolaeth allweddol yn achos wyth cyn-heddwas wedi'i dinistrio wedi'r cwbwl.

Cafodd yr achos yn erbyn wyth cyn-heddwas, oedd wedi gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd yn 1988, ei ddymchwel ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd y barnwr yn yr achos na fyddai'r wyth a dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn oedd wedi gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw, yn cael achos teg.

Fe ddyfarnodd llys y dylai'r wyth gael eu canfod yn ddieuog, oherwydd pryderon bod peth o'r dystiolaeth wedi'i dinistrio.

Ond brynhawn Iau fe wnaeth Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu gyhoeddi ei bod hi wedi dod i'r amlwg nad oedd y dystiolaeth wedi'i dinistrio wedi'r cwbwl.

Daethpwyd o hyd i'r dogfennau yn eu bocsys gwreiddiol ym meddiant Heddlu'r De.

Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd i'r ddwy ffeil hyn o ddogfennau.

Adolygiad llawn

Yn gynharach ddydd Iau roedd Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Starmer, wedi gofyn i Arolygaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i gynnal adolygiad llawn o reolaeth yr erlyniad yn achos anudoniaeth Lynette White.

Derbyniodd y Prif Archwilydd Michael Fuller gais i ymchwilio, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi cyhoeddi cylch gorchwyl yr adolygiad.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lynette White, 20, ei llofruddio ar Chwefror 14, 1988

Cafodd Ms White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat uwchben siop fetio yn ardal Trebiwt o Gaerdydd ar ddydd San Ffolant 1988.

Roedd wedi ei thrywanu dros 50 gwaith.

Roedd yr achos llys a ddilynodd yn un o'r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder ar 么l i dri dyn lleol gael eu carcharu ar gam.

Ffeiliau ar goll

Penderfynodd y CPS i beidio bwrw 'mlaen gyda'u tystiolaeth yn yr achos.

"Ar gais y barnwr ar Dachwedd 28, fe ddangosodd adolygiad gan yr erlyniad o ddeunydd na chafodd ei ddefnyddio bod rhai ffeiliau ar goll," meddai Simon Clements, cyfreithiwr adolygu'r CPS yn yr achos, cyn iddi ddod i'r amlwg nad oedd y dystiolaeth yma wedi'i dinistrio wedi'r cwbl.

Cyhoeddodd Mr Starmer ddatganiad fore Iau sy'n dweud: "Yn fuan wedi i'r achos ddymchwel, fe gychwynnais ar adolygiad llawn a manwl o'r amgylchiadau arweiniodd at y penderfyniad i beidio cynnig mwy o dystiolaeth.

"Gofynnais i arweinydd yr erlyniad baratoi dadansoddiad manwl am y rhesymau dros y penderfyniad.

"Rwyf bellach wedi ystyried y dadansoddiad ac fel rhan o'r adolygiad rwyf wedi gofyn i Arolygaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, corff statudol annibynnol, i ystyried sut y gwnaeth t卯m yr erlyniad gynnal materion datgelu yn yr achos."

Cylch gorchwyl

Ychwanegodd ei fod wedi cytuno ar gylch gorchwyl yr adolygiad gyda Mr Fuller, ac fe fydd yn canolbwyntio ar y materion canlynol :

  • A wnaeth t卯m yr erlyniad baratoi a rheoli datgelu yn effeithiol yn yr achos yma o ystyried hanes, maint a chymhlethdod yr achos a'r erlyniad;

  • A wnaeth t卯m yr erlyniad gydymffurfio gyda'u dyletswyddau datgelu yn gywir, gan gynnwys yr holl ganllawiau a pholisi yn ymwneud 芒 datgelu, yng ngoleuni maint y deunydd a gynhyrchwyd yn yr achos;

  • A yw'r canllawiau cyfreithiol presennol yn briodol i achosion o faint a chymhlethdod cymharol;

  • I wneud argymhellion y mae'n teimlo sy'n briodol o ganlyniad i archwilio'r materion uchod gan gynnwys lle mae'n briodol argymhellion am bolisi a chanllawiau'r CPS ynghyd 芒 sustemau a phrosesau, a threfniannau'r CPS i ddelio gydag achosion o faint a chymhlethdod tebyg yn y dyfodol.

"Mae'n bwysig y gall y cyhoedd gael hyder yn y modd y mae'r CPS yn gweithredu achosion ac fe fydd yr Arolygaeth yn archwilio'r materion yn drwyadl," meddai Mr Fuller.

"Yn anorfod fe fydd hyn yn cymryd amser, ond fe fydd yn cael ei gwblhau cyn gynted 芒 phosib ac fe fydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

"Mae Heddlu De Cymru wedi penderfynu cyfeirio'u rhan nhw yn y mater i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, ac fe fyddwn yn gweithio ar y cyd gydag ymchwiliad y Comisiwn i'r hyn ddigwyddodd.

"Mae'r ddau sefydliad wedi ymroi i rannu'r holl wybodaeth berthnasol, ac mae trefniadau yn cael eu gwneud i sicrhau y bydd cyswllt ystyrlon rhwng y ddau ymchwiliad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol