Gweinidog yn manylu ar Ardaloedd Menter Cymru
- Cyhoeddwyd
Gallai Trawsfynydd yng Ngwynedd a System Badbont yr Hafan, Sir Benfro, fod yn ardaloedd menter.
Daeth y cyhoeddiad wrth i'r Gweinidog Busnes Edwina Hart ymhelaethu yngl欧n 芒'r pum ardal fenter eisoes wedi'u nodi, Ynys M么n, Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glyn Ebwy a Sain Tathan.
Y nod yw cefnogi diwydiannau allweddol a sicrhau bod economi Cymru'n fwy cystadleuol.
Dywedodd Ms Hart fod y llywodraeth yn ceisio bod "mor arloesol 芒 phosib" mewn meysydd wedi'u datganoli.
Gan fod cyllid wedi'i gyfyngu'n arw lle nad oedd grymoedd wedi'u datganoli, meddai, roedd angen " gweithio'n galetach ac yn fwy craff drwy ymyrryd ein hunain".
Yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth fe eglurodd beth fyddai ffiniau'r ardaloedd menter ond ychwanegodd y byddai 'na rywfaint o drafodaeth yn lleol.
Ffiniau
Byddai Ardal Fenter Ynys M么n yn cynnwys yr holl ynys, gyda rhai ardaloedd penodol yn cael blaenoriaeth fel rhan o gynllun Ynys Ynni.
Y nod, yn 么l y gweinidog, fyddai "rhoi mwy o ysgogiad i helpu twf economaidd yr ynys a gwneud cyfraniad mawr at greu economi carbon isel yng Nghymru".
Yng Nghaerdydd, byddai'r ardal fenter yn cyd-fynd 芒 ffiniau'r Datblygiad Ardal Fusnes Ganolog gyda'r nod o greu lleoliad ar gyfer gwasanaethau ariannol a phroffesiynol o safon ryngwladol.
Trwy gynnwys yr holl ardal dwf yn ogystal 芒 safle Airbus ym Mrychdyn yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, y syniad yw adeiladu ar enw da'r ardal yn y maes cynhyrchu.
Sector preifat
Dywedodd y gweinidog fod y sector preifat wedi mynegi diddordeb yn Ardal Fenter Glyn Ebwy oherwydd ansawdd y gweithlu lleol.
Mae Maes Awyr Caerdydd, Sain Tathan a gweithleoedd a datblygiadau eraill yn y cyffiniau yn creu Ardal Fenter Awyrofod i Gymru.
Yn Nhrawsfynydd bydd y pwyslais ar y sectorau ynni, amgylchedd a thechnoleg a gwybodaeth.
Penderfynwyd ar System Badbont yr Hafan, Sir Benfro, oherwydd ei lleoliad strategol pwysig.
Doedd dim modd cadarnhau y byddai'n ardal fenter am y tro gan fod y porthladd yn eiddo i'r goron.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011