'Angen i'r gweinidog ymyrryd'
- Cyhoeddwyd
Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, wedi dweud y dylai'r Gweinidog Iechyd, Leslie Griffiths, ymyrryd yn y ddadl am ad-drefnu gwasnaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Ddydd Iau daeth i'r amlwg fod 50 o feddygon ymgynghorol ac arbenigwyr Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, wedi arwyddol llythyr yn dweud eu bod wedi colli hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mewn llythyr at brif weithredwr y bwrdd, Trevor Purt, dywedon nhw nad oedden nhw'n credu bod y bwrdd iechyd wedi "ymrwymo'n llwyr" i gefnogi'r ysbyty wrth ddarparu gwasanaethau'n lleol.
Mae'r bwrdd wedi bod yn adolygu gwasanaethau, gan gynnwys uned ddamweiniau Ysbyty Bronglais, Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd Ms Jones, AC Ceredigion: "Nid ar chwarae bach maen nhw wedi cymryd y cam yma o ddatgan yn gyhoeddus eu diffyg hyder yn rheolwyr Hywel Dda.
'Gwrando'
"Mae'r gweinidog ... wedi dweud o'r cychwyn taw penderfyniadau yn cael eu cymryd a'u harwain gan feddygon a chlinigwyr fydd ei newidiadau hi.
"Mae'r meddygon a'r clinigwyr yn Bronglais wedi siarad yn ddigon clir ac mae eisiau iddi hi gadw at ei gair a gwrando ar lais y clinigwyr."
Ddydd Mercher cododd Ms Jones y mater yn y Senedd ym Mae Caerdydd a dweud ei bod wedi cael golwg ar y llythyr cyn iddo gael ei anfon.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd: "Ni allaf ymateb i gynnwys llythyr nad wyf wedi ei weld ond os ydych chi'n dymuno anfon y llythyr fe wnaf i ymateb." Eisoes mae'r bwrdd wedi dweud nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud eto.
'Safonau'
Mae Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Chyflenwi Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Tony Chambers, wedi dweud: "Rhaid i'n gwasanaethau ni gydymffurfio 芒 safonau diogelwch ac ansawdd ac ni fyddem yn ystyried cynigion anniogel.
"... rydym yn glir nad yw peidio 芒 newid yn opsiwn.
"Bydd rhaid i unrhyw fodel gwasanaeth arfaethedig wella ansawdd gwasanaethau, a chanlyniadau cleifion."
"Mae'n siom bod clinigwyr wedi penderfynu mynegi eu barn yn y modd hwn.
"Rydym eisoes wedi cynnal cyfnod hir o ymgysylltu ag uwch glinigwyr yn y tair sir.
"Mae'r bwrdd iechyd wrthi'n cynnal cyfnod o wrando ac ymgysylltu er mwyn egluro'r opsiynau, a gwrando ar farn yr holl staff, gan gynnwys clinigwyr, grwpiau rhanddeiliaid, a'r cyhoedd, er mwyn cael eu barn a llunio'r opsiynau a fydd yn mynd ymlaen yn y pen draw i ymgynghoriad ffurfiol yn hwyrach eleni."
Dywedodd eu bod yn cydnabod pryderon preswylwyr oedd yn mynychu Ysbyty Cyffredinol Bronglais ac yn ystyried eu barn.
Anfodlonrwydd
Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Miller, wedi dweud bod y llythyr yn dangos fod yna anfodlonrwydd mawr am ad-drefnu iechyd yn yr ardal.
"Mae'n codi cwestiwn am gyfeiriad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac mae'n codi cwestiwn am y modd mae'r Gweinidog Iechyd yn rheoli'r gwasanaeth.
"Rydym wedi dweud a dweud y bydd strategaeth y Llywodraeth Lafur a thoriadau mewn cyllid yn creu anhrefn ymhlith byrddau iechyd, ac mae hyn yn brawf pellach nad oes modd gwireddu'r cynigion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011