Ieuan Wyn Jones: 'Cenhadaeth Plaid Cymru yw llywodraethu'
- Cyhoeddwyd
Dylai Plaid Cymru fod yn rhan o'r llywodraeth os yw'r cyfle'n codi, yn 么l Ieuan Wyn Jones wrth i'w gyfnod fel arweinydd ddirwyn i ben.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen 大象传媒 Cymru, Sunday Politics, dywedodd fod yna bethau y mae angen i'r blaid "ei gael yn iawn" ar 么l colli seddi yn yr etholiad y llynedd.
"Pe byddai cyfle i'r blaid fynd yn 么l i mewn i lywodraeth, dwi'n credu y dylai'r blaid dderbyn hynny," meddai.
Fe fydd ei olynydd yn dechrau yn y swydd ar Fawrth 15.
2016
Pan ofynnwyd i Mr Jones a oedd yn credu y byddai'r blaid yn cael y cyfle i fod yn rhan o'r llywodraeth cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2016, atebodd: "O bosibl, ond mae'n dibynnu ar amgylchiadau".
Mae'r papurau pleidleisio ar gyfer dewis arweinydd newydd Plaid Cymru wedi eu hanfon i'r aelodau.
Tan ganol mis Mawrth fe fydd yr aelodau yn dewis rhwng tri ymgeisydd.
Eisoes mae'r tri, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones a Leanne Wood, wedi bod yn dadlau eu hachos mewn cyfres o gyfarfodydd ar draws Cymru.
Yn 么l Mr Jones, a arweiniodd ei blaid i mewn i glymblaid gyda Llafur yn 2007: "Dydw i ddim yn awgrymu y dylai hynny (clymblaid) ddigwydd ar unwaith oherwydd dwi'n credu bod yna bethau yn etholiad 2011 y mae'n rhaid i'r blaid eu cael yn iawn, cyn meddwl mynd i mewn i glymblaid.
"Ond dwi'n credu bod yn rhaid i'r blaid dderbyn ei bod r诺an yn blaid a ddylai edrych at fod mewn llywodraeth - mewn geiriau eraill, dyna ddylai fod ei chenhadaeth, oherwydd dwi'n meddwl y gallai newidiadau cyfansoddiadol sylweddol ddigwydd dim ond os yw'r Blaid yn rhan o lywodraeth yng Nghymru".
'Trwy'r felin'
Dywedodd hefyd y gall bywyd fel arweinydd fod yn "unig" a bod y gwaith wedi rhoi ei deulu "trwy'r felin".
Ym mis Mehefin y llynedd, bu'n rhaid i Mr Jones amddiffyn penderfyniad i fynd ar wyliau yn Ffrainc yn hytrach na mynychu agoriad Brenhinol y Senedd.
"Fe wnaeth hynny frifo oherwydd roeddwn i'n teimlo fy mod wedi cynrychioli'r blaid am 25 mlynedd a heb golli'r un digwyddiad o bwys...
"Mae 'na gyfleoedd lle y mae'n rhaid i chi roi eich teulu yn gyntaf.
"Maen nhw wedi bod trwy'r felin, wedi bod trwy lanw a thrai gwleidyddiaeth, ac yn sydyn mae 'na gyfle i'w rhoi nhw yn gyntaf.
"Dydw i ddim yn ymddiheuro am hynny o gwbl."
Sunday Politics, 大象传媒 2 Wales am 1200 ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2012