大象传媒

DVLA wedi diswyddo pump o bobl

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y DVLA yn AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pencadlys y DVLA yn Abertawe

Mae asiantaeth drwyddedu'r DVLA wedi diswyddo pump o bobl yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf am dorri'r Ddeddf Diogelu Data.

Roedd y pump wedi rhyddhau gwybodaeth i drydydd person, ac roedd pedwar ohonynt wedi edrych ar y gronfa ddata am gerbydau heb awdurdod i wneud hynny.

Yn ogystal, mae dau berson wedi cael rhybudd ysgrifenedig.

Fe wnaeth un anfon gwybodaeth yn ddamweiniol i gyfeiriad e-bost anghywir, ac roedd y llall wedi postio dogfennau yn cynnwys cyngor cyfreithiol yn ddamweiniol.

Cafodd 大象传媒 Newyddion Ar-lein y wybodaeth wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

'O ddifrif'

Dywedodd llefarydd y DVLA: "Rydym yn cymryd materion diogelwch gwybodaeth bersonol wirioneddol o ddifrif, a disgwylir i'n holl staff weithredu gydag uniondeb bob amser.

"Mae ein cronfeydd data'n cael eu monitro'n ofalus, ac rydym yn cymryd achosion o gamddefnyddio o ddifrif.

"Ar yr adegau prin iawn y torrwyd y Ddeddf Diogelu Data, rydym wedi cymryd camau disgyblu priodol ar unwaith."

Ers dechrau'r 70au mae'r DVLA wedi bod yn cadw cofnod o drwyddedau gyrwyr.

Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi dros 5,000 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol