Sefydliad Aren Cymru yn falch bod cefnogaeth i'r newid trefn o roi organau
- Cyhoeddwyd
Mae Sefydliad Aren Cymru wedi croesawu'r gefnogaeth sydd i newid arfaethedig yn y drefn o roi organau.
Yn yr arolwg a wnaed ar ran 大象传媒 Cymru roedd y mwyafrif a holwyd o ddau i un o blaid y newid arfaethedig.
Fe fyddai'r newid yn gofyn i bobl sy'n anfodlon gadael i'w horganau gael eu defnyddio ar 么l eu marwolaeth gofrestru eu gwrthwynebiad.
Gobaith ymgyrchwyr yw y byddai hynny'n sicrhau gwell cyflenwad o organau na'r gyfundrefn bresennol o gofrestru cydsyniad.
Gwrthwynebir y newid gan nifer o arweinwyr eglwysig.
Ond roedd 63% o'r rhai a holwyd o blaid y newid gyda 31% yn gwrthwynebu.
Roedd y gefnogaeth yn gryfach ymhlith yr ifanc a menywod nac ymhlith dynion a phobl h欧n.
Dywedodd Tristan Williams o Sefydliad Aren Cymru eu bod yn falch o weld canlyniad yr arolwg.
"Rydan ni'n gwybod ers sawl blwyddyn bellach bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth o blaid newid yn y system.
"Yn amlwg mae'r canlyniadau yn cadarnhau hyn a'n bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.
"Mae 'na waith o hyd i'w wneud a chydweithio gyda'r Llywodraeth bod pawb yn glir am yr hyn fydd yn digwydd."
Bagiau un-defnydd
Mae'r un arolwg hefyd yn awgrymu bod pobl Cymru wedi derbyn y taliad sy'n cael ei godi am fagiau un-defnydd.
Dim ond 34% oedd yn dymuno gweld y taliad yn cael ei ddileu tra bod bron i ddwbl hynny, 64% yn credu bod gofyn pum ceiniog am fag yn deg.
Cymysg yw barn yr etholwyr am y Gyfundrefn Addysg er gwaethaf cyfres o adroddiadau diweddar yn rhybuddio ynghylch ei chyflwr.
Roedd 21% yn credu bod safon addysg wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf, 28% yn credu ei bod wedi gwaethygu a 35% yn credu ei bod wedi aros yn ei hunfan.
Dywedodd Owen Hathway o'r undeb athrawon NUT Cymru fod y sector yn wynebu heriau ond ychwanegodd fod "penodau negyddol" wedi dylanwadu barn pobl ynghylch beth oedd yn disgwyl yn y dosbarth.
"Yn fy marn i rydyn ni wedi gweld ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus sydd yn agos i fod yn un ymosodol, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Mae'r ymgyrch hwn wedi bod yn negyddol o ran y proffesiwn ac eithaf negyddol o ran addysg yn gyffredinol.
"Felly nid yw'n sioc fod rhai pobl yn meddwl bod safonau wedi gostwng."
Holwyd 1,000 o bobol gan ICM rhwng Chwefror 24 a 26.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012