大象传媒

Cynllun i roi hawliau newydd dros drais yn y cartre

  • Cyhoeddwyd
Clare WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tad Clare Wood wedi ymgyrchu ers i'w ferch gael ei llofruddio gan ei chyn-bartner

Gall pobl yn rhannau o Gymru ofyn i'r heddlu cyn bo hir a oes gan eu partneriaid hanes o drais yn y cartre.

Mae'n ymddangos y bydd Llywodraeth Prydain yn dynodi pedair ardal benodol, gan gynnwys ardal Heddlu Gwent, lle bydd y cynllun peilot yn cael ei weithredu am flwyddyn.

Yn yr ardaloedd hynny mi fydd gan bobl hawl i fynd at yr heddlu er mwyn holi a oes gan eu partneriaid hanes o ymddwyn yn dreisgar yn y cartref.

Mae hyn yn dilyn ymgyrch fawr gan Michael Brown - tad Clare Wood, a gafodd ei llofruddio gan ei phartner George Appleton yn 2009 wedi iddynt gyfarfod ar wefan Facebook.

Heb yn wybod i Clare, roedd Appleton wedi ymosod yn dreisgar ar bartneriaid yn y gorffennol.

'Tanseilio'

Ond mae rhai wedi beirniadu'r cynlluniau, gan ddweud na fydd yn gwneud llawer i amddiffyn rhai sy'n dioddef.

Yn 么l y cyfreithiwr Gwyn Jones, mae 'na gwestiynau i'w gofyn hefyd yngl欧n 芒 sut yn union y bydd y ddeddf yn cael ei gweithredu:

"Mae o, o bosib, yn mynd i danseilio unrhyw fath o hygrededd, unrhyw fath o ymddiriedaeth a pharch sydd 'na i fod mewn perthynas.

"Wrth gwrs, mae o'n mynd i helpu rhai lle mae 'na amheuaeth yngl欧n 芒 chefndir rhywun o bosib sydd wedi bod yn dreisgar yn y gorffennol...Mae 'na rhai, wrth gwrs, yn gallu newid ond mae hyn yn mynd i danseilio unrhyw hawliau sydd ganddyn nhw i drio cadw'u cefndir yn y gorffennol."

Mae Cathy Owens, sy'n aelod o gr诺p gweithredu ar drais yn erbyn merched yng Nghymru, yn rhoi croeso gofalus i Gyfraith Clare:

Cynnydd

"Mae tipyn bach o bryder gen i am ffurfio deddf ar 么l un achos penodol, sydd wedi cael dipyn o sylw yn y papurau newydd, ond heb ymchwil sy'n dangos sut fydd y ddeddf newydd yma yn lleihau neu atal trais, neu hyd yn oed yn gwarchod dioddefwyr fel Clare Wood ei hun.

"Mae angen hyfforddiant pellach ar yr heddlu i sicrhau ymateb mwy effeithlon tuag at droseddwyr cyfan, ac nid dim ond hysbysebu'r troseddau heb weithredu yn eu herbyn. A hefyd rhoi arian ar gyfer mwy o hyfforddiant ar gyfer y troseddwyr eu hunain."

Mae llofruddiaethau o ganlyniad i drais yn y cartref ar gynnydd gyda 21 o ddynion a 94 o ferched yn cael eu lladd ym Mhrydain yn 2010.

Os daw cyhoeddiad ddydd Llun fod y cynllun peilot yn cael ei gynnal mewn pedair ardal, yna mae disgwyl i Gyfraith Clare gael ei gweithredu drwy Gymru a Lloegr ymhen blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol