'Meddyginiaethau ar gael am ddim'
- Cyhoeddwyd
Bydd meddyginiaethau ar gyfer m芒n glefydau ar gael yn rhad ac am ddim mewn fferyllfeydd o dan gynllun newydd Llywodraeth Cymru.
Y bwriad yw rhoi mwy o amser i feddygon teulu drwy wneud fferyllfeydd yn fan gyntaf galw am gymorth.
Bydd meddyginiaethau i broblemau fel diffyg traul, clwy' gwair a llau pen yn cael eu rhoi heb fod angen presgripsiwn a bydd fferyllwyr yn rhoi cyngor neu'n cyfeirio pobl at feddyg os oes angen.
40%
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hyd at 40% o amser meddygon teulu yn delio 芒 phobl sy'n dioddef o f芒n glefydau.
Bydd angen i bobl gofrestru gyda'u fferyllfa leol er mwyn ymuno 芒'r cynllun.
Bydd dim angen apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth fydd yn dechrau o fewn blwyddyn ac yn cael ei ymestyn i Gymru gyfan y flwyddyn nesaf.
Nod y llywodraeth yw gweld 500,000 o bobl yn cofrestru o fewn y pum mlynedd nesaf.
Mae'r cynllun yn seiliedig ar un tebyg yn Yr Alban ac yn amcangyfri y bydd pobl yn cael tua dwy eitem bob blwyddyn.
'Amseroedd aros'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, y byddai defnyddio fferyllfeydd yn gwella mynediad at wasanaethau ac yn un o ymrwymiadau allweddol y llywodraeth.
"Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud gwasanaethau meddygon teulu yn fwy hygyrch.
"Drwy ymweld 芒 fferyllfa yn lle meddygfa ar gyfer m芒n glefydau, ni fydd rhaid i gleifion gael apwyntiad ond fe fyddan nhw'n dal yn gallu cael unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol heb dalu.
"Bydd hyn yn golygu mwy o amser i feddygon teulu ddelio gyda chyflyrau mwy cymhleth ac fe allai leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau.
'Mwy priodol'
"Yn y pen draw, bydd y gwasanaeth yn hybu defnydd mwy priodol o feddyg teulu a sgiliau fferyllfeydd cymunedol.
"Wrth gwrs fe fydd pobl yn dal i allu mynd i feddygfa os ydyn nhw'n teimlo bod angen hynny."
Dywedodd Cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Ian Cowan: "Mae gwasanaeth o'r fath yn ddefnydd arbennig o allu meddyginiaethol fferyllwyr ynghyd 芒 hwylusrwydd y 710 o fferyllfeydd lleol mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ar draws y wlad.
"Dyma'r allwedd i wneud fferyllfeydd cymunedol yn ganolfannau iechyd ar y stryd fawr."