S4C: 'Rhoi cyfle i arlwy newydd'
- Cyhoeddwyd
Ni fydd newidiadau yn y tymor byr i arlwy S4C, yn 么l Prif Weithredwr y sianel.
Wrth annerch cynhyrchwyr rhaglenni yn Aberystwyth ddydd Iau cyhoeddodd Ian Jones newidiadau i drefn gomisiynu'r sianel ond doedd e ddim am ymateb i feirniadaeth gan wylwyr o raglen 'Heno'.
Dywedodd fod yn rhaid rhoi cyfle i arlwy newydd y sianel cyn ystyried ei newid.
Apeliodd am gydweithrediad y sector gynhyrchu annibynnol i symleiddio'r broses gomisiynu rhaglenni er mwyn creu mwy o sefydlogrwydd a chystadleuaeth greadigol o fewn y diwydiant darlledu yng Nghymru.
Dywedodd fod "angen symud i ffwrdd o'r hen agwedd o 'Fo a Fi' a 'Chi a Ni' tuag at bartneriaethau creadigol iachach a mwy effeithlon."
Cyhoeddodd hefyd fod trafodaethau wedi cychwyn gyda'r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ed Vaizey, i geisio ehangu cylch gorchwyl S4C i alluogi'r sianel i weithio yn fwy yn y maes aml-gyfrwng.
Roedd S4C hefyd yn awyddus i weld defnydd gwell yn cael ei wneud ar-lein o archif y sianel. Gofynnodd Ian Jones i'r cwmn茂au cynhyrchu gydweithio 芒 S4C ar hyn.
Cyfarwyddwr Cynnwys
Cyhoeddwyd hefyd mai Dafydd Rhys yw Cyfarwyddwr Cynnwys newydd y sianel.
Fe ddechreuodd weithio gyda HTV ym maes plant ac adloniant a thrwy'r nawdegau bu'n gweithio yn S4C fel Golygydd Comisiynu a Chyfarwyddwr Darlledu.
Yn 1998 fe ymunodd 芒 chwmni Antena cyn gadael yn 2000 i sefydlu cwmni Pop1, rhan o gr诺p Tinopolis yn Llanelli. Ef yw cyfarwyddwr y cwmni, yn gyfrifol am strategaeth ddatblygu ac am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.
Dywedodd Mr Rhys: "Mae'r her sy'n wynebu S4C yn fawr ac mae angen cyfnod o gydweithio wrth edrych tua'r dyfodol, cydweithio gyda'r cwmn茂au cynhyrchu, gyda'r 大象传媒 a gyda'n gwylwyr er mwyn sicrhau'r cynnwys a'r gwasanaeth gorau posib.
"Mae'n rhaid rhoi'r gwyliwr yng nghanol popeth 'da ni'n ei wneud yn S4C, mewn ffordd sy'n briodol gydag egwyddorion sylfaenol darlledwr cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011