大象传媒

Cyngor Powys yn gwrthod codi ffermydd gwynt

  • Cyhoeddwyd
Tyrbinau gwyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cabinet y cyngor yn trafod brynhawn Mawrth

Am yr eildro mewn wythnos mae cynghorwyr Powys wedi gwrthwynebu ceisiadau am ffermydd gwynt.

Roedd y ceisiadau'n ymwneud 芒 chodi dwy fferm wynt, un ger Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn ac un ar dir yn Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed.

Yn Llanbadarn Fynydd y bwriad oedd codi 17 o dyrbinau ar uchder o 126 metr.

Mae'r cynllun yn ardal Llanbrynmair yn fwy, 50 o dyrbinau ar fynydd Carnedd Wen, y tyrbinau yn 137 metr o uchder.

Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd fydd yn penderfynu'n derfynol.

'Unigryw'

Un o blaid cynllun Carnedd Wen yw Aled Evans, ffermwr lleol.

"Dwi ddim yn ei weld o'n fwgan mawr," meddai.

"Mae Carnedd Wen yn safle unigryw, mae o'n bell o unrhyw fan.

"Ydach, 'dach chi'n mynd i'w gweld nhw ond alla i ddim credu ein bod bod ni sy'n byw yn lleol - ni sydd yn byw yma nid y bobl sy'n gwrthwynebu - yn mynd i glywed y tyrbinau yma'n troi. Mae'n amheus gen i."

Mae ardal Powys yn un o'r rhai sydd wedi ei thargedu gan y Llywodraeth ar gyfer datblygu ynni gwyrdd.

Targedau

Un o dargedau Llywodraeth San Steffan yw lleihau nifer yr allyriadau carbon a hefyd geisio cynhyrchu 30% o ynni Prydain o ffynonellau adnewyddol.

Ond dywedodd Myfanwy Alexander, un o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau, fod angen bod yn ofalus wrth osod targedau o'r fath.

"Mae'r targedau hyn wedi eu creu heb gymryd ystyriaeth effaith y cynlluniau ar yr ardaloedd sydd wedi eu targedu gan bolisi Tan 8.

"'Dan ni'n teimlo nad ynni gwynt yw'r ffordd wyrddach i gyflawni'r rhain, yn enwedig pan ydan ni'n s么n am roi tyrbinau ar gorsydd mawn, corsydd sydd ar hyn o bryd yn sugno cyfanswm sylweddol o garbon o'r awyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol