Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru.
Daeth y cyhoeddiad wedi'r cyfri yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd ddydd Iau.
Mae hi'n olynu Ieuan Wyn Jones.
Y ddau ymgeisydd arall oedd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ac Elin Jones.
Wrth i'r Arglwydd Elis-Thomas gael ei guro yn y bleidlais gyntaf cafodd ei bleidleisiau eu trosglwyddo i'r ddwy oedd ar 么l.
Wedi'r ail bleidlais cafodd Ms Wood 3,326 o bleidleisiau a Ms Jones 2,494. Enillodd Ms Wood 55% o'r bleidlais a chafodd Ms Jones 41%.
"Nid ymgyrch dros unigolion oedd hon, ymgyrch dros weledigaeth - rhaglen, set o wleidyddiaeth gysylltiedig," meddai Ms Wood.
"Ein tasg nawr yw adeiladu ar waith y rhai ddaeth o'n blaenau ni.
"Efallai ein bod ni'n fach fel plaid ac fel gwlad ond gallwn gyflawni pethau mawr os safwn ni gyda'n gilydd ac os safwn dros ein hegwyddorion."
Gan fod yr etholiad ar ben, meddai, roedd y gwaith go iawn yn dechrau.
'Ailadeiladu cymuned'
"Efallai nad fi yw Arweinydd yr Wrthblaid Swyddogol ond rwy'n bwriadu arwain y weledigaeth swyddogol, y weledigaeth bod Cymru arall yn bosibl.
"Dim ond gan Blaid Cymru y gall y weledigaeth gadarnhaol, uchelgeisiol yma ddod.
"Felly dyma fy neges i bobl Cymru - ni yw eich plaid chi, plaid y bobl, plaid 芒'u gwreiddiau yng Nghymru, ar gyfer Cymru.
"Ymunwch 芒 ni. Helpwch ni i ailadeiladu eich cymuned.
"Helpwch ni i ailadeiladu'r economi. Gyda'n gilydd gallwn ni adeiladu Cymru newydd deg, Cymru newydd fydd yn ffynnu a Chymru newydd rydd."
Dywedodd y prif weithredwr, Rhuanedd Richards, ei bod am longyfarch Ms Wood ond hefyd ei bod am longyfarch y ddau ymgeisydd arall.
"Mae Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas wedi cynnal ymgyrchoedd egn茂ol ac ysbrydoledig.
"Gwn y bydd y ddau yn parhau i wneud cyfraniad pwysig iawn wrth wasnaethu'r blaid a Chymru.
'Blaenoriaeth'
"Mae gan ein harweinydd newydd swyddogaeth bwysig iawn i'w chyflawni ar ran ein cenedl dros y blynyddoedd tyngedfennol nesaf.
"Mae brwydro dros ddyfodol Cymru a'i chymunedau yn flaenoriaeth i bobl Cymru.
"Plaid Cymru yw'r unig blaid fydd yn rhoi anghenion Cymru a'i phobl yn gyntaf.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda Leanne Wood wrth i ni barhau gyda'r gwaith o adnewyddu Plaid Cymru."
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod "Y Prif Weiniodg wedi llongyfarch Ms Wood".
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, wrth longyfarch Ms Wood ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda hi lle oedd yn bosib i sicrhau bod gweinidogion Llafur yn atebol.
"Mae hi'n olynu Ieuan Wyn Jones, a arweiniodd ei blaid gyda chlod a chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cynulliad, a dwi'n dymuno'r gorau iddo yntau yn y dyfodol."
'Gweithio'n adeiladol'
Fe wnaeth Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, longyfarch Ms Wood.
"Tra bod ein pleidiau 芒 safbwyntiau gwahanol ar nifer o faterion, dwi'n gobeithio ein bod yn gallu gweithio'n adeiladol gyda'n gilydd er mwyn galw Llywodraeth Cymru i gyfri ac achub y cyfle i hybu datganoli drwy gyfrwng Comisiwn Silk."
Cyhoeddodd Mr Jones ei fwriad i ildio'r awenau wedi Etholiad Cynulliad "siomedig" y llynedd.
Roedd yn y swydd am dros ddegawd, gan arwain ei blaid i lywodraeth am y tro cyntaf erioed yn 2007.
Fe fydd araith fawr gyntaf Ms Wood yng nghynhadledd wanwyn y blaid ar Fawrth 23 a 24.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011