Ceidwadwr yn galw am bwerau trethu
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru yn dweud bod David Cameron "ond yn goddef" datganoli yng Nghymru a bod rhaid i'r Cynulliad gael pwerau trethu.
Mynnodd Guto Bebb, AS Aberconwy, bod yr amser wedi dod i gymryd camau cyfansoddiadol "mwy anturus".
Dywedodd wrth bapur newydd bod rhaid trin Cymru a'r Alban yn yr un modd a bod agwedd y Ceidwadwyr at ymreolaeth leol yn "rhyfedd a chroesebol".
Ond roedd Mr Bebb yn mynnu ei fod yn gwrthwynebu chwalu'r Deyrnas Unedig.
'Atebol'
Fe gafodd y Cynulliad bwerau deddfu yn dilyn refferendwm mis Mawrth y llynedd, ond does ganddo ddim hawl dros drethu.
Dywedodd yr AS wrth y Western Mail: "Mae'n rhyfedd a chroesebol i weld y Ceidwadwyr yn clodfori ymreolaeth leol yn San Steffan tra'n datgan gwrthwynebiad i ddatganoli atebol yng Nghymru.
"Wrth ddweud 'atebol' ydw, rwy'n credu y dylai'r cyfrifoldeb am godi cyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru fod yng Nghymru.
Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru, aeth Mr Bebb ymlaen i ddweud:
"Mae dealltwriaeth gynyddol o fewn y Blaid Geidwadol bod rhaid bod yn ddewr a chymryd camau mwy anturus wrth ddelio gyda materion cyfansoddiadol unwaith ac am byth os ydym am warchod yr undeb.
"Fe wnaeth araith David Cameron yn yr Alban danlinellu'n glir yn fy marn i bod rhaid cymryd risg er mwyn gwarchod yr undeb, ac rwy'n dweud bod rhaid i'r blaid yng Nghymru wneud yr un peth."
Pwerau gwahanol
Ychwanegodd bod setliad datganoli yn "anhapus iawn" gan fod gan Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd bwerau gwahanol, ac nid oes gan Loegr gynulliad o gwbl.
Dywedodd bod hyn yn "sefyllfa anghynaliadwy" ac na ellid gwarchod yr undeb gyda phethau fel ag y maen nhw.
Dywedodd hefyd y byddai chwalu'r undeb yn "beryglus" i Gymru a'i fod yn dal i fod yn ymroddedig i'r DU.
Mae Comisiwn sy'n ael ei arwain gan Paul Silk - cyn glerc i'r Cynulliad Cenedlaethol - yn ystyried a ddylai pwerau trethu gael eu datganoli i Fae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, bod ei blaid wedi gwneud cyflwyniadau i Gomisiwn Silk ac nad oedd "am ychwanegu sylw pellach".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012