Un gwasanaeth pelydr-X i holl ysbytai Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd modd i gleifion gael gwasanaeth gwell a chynt wrth i wasanaeth pelydr-X newydd gael ei gyflwyno.
Mae buddsoddiad wedi bod yn y gwasanaeth fel bod modd trosglwyddo pelydrau X, sganiau a lluniau digidol yn gyflym ac yn haws o un ysbyty i'r llall.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, fe fydd hyn yn arbed hyd at 拢15 miliwn i Wasanaeth Iechyd Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, fod proses dendro agored wedi ei chynnal ac fe ddyfarnwyd contract saith mlynedd darparu Gwasanaeth Archifo Lluniau a Chyfathrebu gwerth tua 拢20 miliwn i Fujifilm.
Daw'r arbedion wrth i bob un o'r byrddau iechyd drosglwyddo i'r gwasanaeth newydd.
Dewiswyd y cynllun unigol gan gynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Felindre, a rheolwyd y broses gan Wasanaeth Gwybodeg Iechyd Cymru.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd y cyntaf i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd yn yr hydref.
Effeithiolrwydd
"Dyma enghraifft wych o sefydliadau'r gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio fel un i ddod 芒 gwir fanteision i bobl Cymru," meddai Ms Griffiths.
"Ers cyflwyno delweddu digidol yn ein hysbytai rai blynyddoedd yn 么l, gwelsom sut mae cael gafael ar luniau meddygol heb oedi'n gallu arwain at ddiagnosis cyflymach a mwy effeithiol.
"Ond gan nad oedd systemau yn gydnaws roedd rhannu lluniau rhwng sefydliadau yn creu problemau.
"Roedd hefyd yn golygu nad oeddem yn gallu manteisio i'r eithaf ar y dechnoleg hon."
Gall cleifion Gwasanaeth Iechyd dderbyn gofal mewn sawl lleoliad ac mewn sawl canolfan driniaeth y dyddiau hyn.
Ar 么l cael eu pelydr-X neu sgan gwreiddiol, bydd cleifion yn aml yn cael eu trin yn rhywle arall.
Gall hyn olygu bod rhaid i gleifion gael sgan neu belydr-X arall am nad yw'r lluniau gwreiddiol ar gael neu fod rhaid iddyn nhw aros i'r lluniau gyrraedd cyn cael triniaeth.
Archif ganolog
Mae rhai sefydliadau yn cop茂o lluniau ar gryno ddisg i'w hanfon at y sefydliad lle mae'r claf yn derbyn gofal tra bod eraill yn defnyddio proses gymhleth o drosglwyddo ffeiliau yn electronig.
Bydd y Gwasanaeth Archifo Lluniau a Chyfathrebu unigol newydd yn golygu y bydd pob llun ar gael pan fydd ei angen, waeth lle bo'i darddiad.
Caiff lluniau pelydr-X, sganiau CT, ffotograffiaeth feddygol a lluniau retinopathi eu cadw mewn archif ganolog leol.
Dywedodd Dr Keith Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithredol Therap茂au a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod nod y cytundeb yn golygu y bydd modd dehongli lluniau er mwyn rhoi diagnosis a monitro afiechyd, gan ddefnyddio'r un system i storio'r lluniau hynny ym mhob cwr o Gymru.
"Cwblhawyd y gwaith gan d卯m o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan arweiniad y radiolegydd Dr Charles McConnell, mewn cydweithrediad 芒 Gwasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Cymru a'r gymuned ddelweddu yng Nghymru, a hynny mewn llai na deunaw mis.
"Yn wir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd y cyntaf i osod y system.
"Yn ogystal 芒 moderneiddio'r ffordd y caiff y lluniau hyn eu dehongli a'u storio, mae'r cytundeb fframwaith gyda Fujifilm yn golygu arbedion ariannol sylweddol i holl Fyrddau Iechyd Cymru."