大象传媒

Arbedion sylweddol cyn yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg 2012

  • Cyhoeddwyd
Maes Eisteddfod Wrecsam 2011Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae newidiadau ar Faes yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi gwneud arbedion o bron 拢250,000 cyn Prifwyl Bro Morgannwg.

Yn 么l Cyngor yr Eisteddfod, oedd yn cyfarfod dros y penwythnos, roedd angen toriadau ar 么l i Eisteddfodau diweddar wneud colledion.

Ond mae'r Cyngor wedi mynnu na fydd yr arlwy yn diodde'.

Roedd pryder am y sefyllfa ariannol ym mis Tachwedd ond llai o ofid yn y cyfarfod ddydd Sadwrn.

Yn Wrecsam y llynedd y golled oedd 拢90,000 ac roedd y Cyngor wedi gosod targed, arbedion o 拢200,000.

Pafiliwn

Cyhoeddwyd bod 拢230,000 wedi eu harbed. Ymhlith y newidiadau eleni mae un patio bwyd ac un llwyfan perfformio ar y Maes.

Fe fydd maint y Pafiliwn yn llai a dim ond o ddydd Mercher ymlaen y bydd adloniant ar Faes B.

Fydd 'na ddim adeilad pwrpasol ar gyfer Maes C ar y maes carafanau.

"Rydym wedi bod yn s么n am y Maes a does 'na ddim angen cymaint o waith oherwydd yr ansawdd eleni," meddai Prydwen Elfed Owens, Llywydd Llys yr Eisteddfod.

"Mae'r arbedion yn fanwl iawn ..."

Bydd yr Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn ail wythnos y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Oherwydd pryder am effaith y gemau fe gyhoeddwyd y byddai modd gwylio'r cystadlu yn fyw ar y Maes ar y sgrin fawr sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwerthiant tocynnau cyngherddau yn araf ar hyn o bryd ond mae'r trefnwyr yn ffyddiog ac wedi canmol gwaith caled y Pwyllgor Gwaith.

'Twll'

Eisoes mae'r pwyllgor lleol wedi codi dros 拢200,000.

"Y ffordd hawdda un i sicrhau bod yr Eisteddfod yn dod allan o'r twll presennol yw cael cefnogaeth gan Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg i ddod i fynychu'r 诺yl a'r cyngherddau," meddai Elfed Roberts, y prif weithredwr.

Ychwanegodd Hywel Wyn Edwards, y trefnydd, eu bod wedi cael y nifer fwya' erioed o gystadleuwyr ar gyfer Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

"Mae 37 o bobl wedi cystadlu, yn wir o bedwar ban byd. Mae 'na gystadleuwyr o'r Ariannin, Yr Eidal a'r Ffindir.

"Mae'r lleoliad yn Lland诺 yn gyfleus iawn ac rydym am weld pobl yn tyrru yn eu miloedd."

Cymrawd

Wedi marwolaeth Gwilym Humphreys ym mis Mawrth cyhoeddwyd mai John Gwilym Jones fydd yn Gymrawd yr Eisteddfod.

Roedd yn Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 ac yn 1995 coronodd ei frawd, Aled Gwyn, a chadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones.

Yn hanu o fferm Parc Nest ger Castellnewydd Emlyn roedd yn gweinidogaethu gyda'r Annibynwyr yn Sir Gaerfyrddin ac ym Mangor am 40 mlynedd.

Enillodd Gadair Eisteddfod Machynlleth yn 1981 a rhwng 2006 a 2010 roedd yn Gofiadur yr Orsedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol