大象传媒

Cyngor sir o blaid cynllun marina

  • Cyhoeddwyd
Argraff arlunyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argraff arlunydd o'r datblygiad fydd yn cyfrannu at yr economi leol 'yn sylweddol'

Mae pwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo marina lle bydd 450 o gychod a 250 o fflatiau.

Roedd swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r cynllun yn Abergwaun lle bydd siopau a thai bwyta.

Dywedodd adroddiad Cyngor Sir Benfro fod cyfraniad y cynllun at yr economi leol yn debyg o fod yn "sylweddol".

Cwmni Conygar sydd wedi gwneud y cais cynllunio.

Cafodd cwmni'r Anglesey Boat Company ganiat芒d cynllunio ar gyfer marina yn Abergwaun yn 2003 cyn i Conygar brynu'r cwmni yn 2008.

O'r blaen dywedodd Conygar y byddai'r caniat芒d cynllunio newydd yn disodli'r caniat芒d presennol ac yn arwain at ddatblygiad mwy.

Mewn datganiad dywedodd Robert Ware, y prif weithredwr, eu bod yn falch bod y cyngor sir wedi caniat谩u'r cynlluniau.

"Mae'n rhoi hyder i ni fwrw ymlaen gyda'n cynlluniau ac fe fyddwn ni'n ceisio barn y cyrff perthnasol am y materion sy'n dal i fod yn destun pryder."

'Gwir angen'

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol, Stephen Crabb, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn "newyddion cadarnhaol".

"Yn sicr, mae'n dod pan mae gwir angen adfywio a buddsoddi yn Abergwaun," meddai.

"Fe fydd yn rhoi chwistrelliad o hyder sydd wir ei angen ar gyfer buddsoddiad pellach ... a chreu swyddi o bosib."

Yn 么l adroddiad pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Benfro: "Mae'r gwasanaethau manwerthu a phroffesiynol a'r caffis a thai bwyta sy'n cael eu cynnig yn cael eu hystyried yn gefnogaeth hanfodol i'r marina ac, o ddilyn amodau priodol, yn cynnig rhywbeth gwahanol i ganol y dref.

"Yn ogystal byddai'r marina a'r cymysgedd o ddefnydd masnachol sy'n cael ei gynnig yn gatalydd i adfywio'r economi leol gyda'r potensial o fod o fudd i ganol y dref."

'Sylweddol'

Mae'r adroddiad wedi dweud ei bod yn anodd dweud faint o swyddi fyddai'n cael eu creu ond bod y cyfraniad i'r economi leol yn debyg o fod yn "sylweddol".

Bydd y cynllun yn cynnwys 253 o fflatiau, hynny yw 76 o rai un llofft a 177 o rhai dwy lofft, 200 metr sgw芒r o siopau, 500 metr sgw芒r o wasanaethau ariannol a phroffesiynol ac 840 metr sgw芒r o le i gaffis a thai bwyta.

Mae safleoedd diwydiant ysgafn a storfeydd yn rhan o'r cynllun ynghyd ag iard longau, gweithdy a storfeydd pysgota.

Bydd dau forglawdd yn cael eu codi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol