大象传媒

Eglwys: Trafod ordeinio merched

  • Cyhoeddwyd
Yr Eglwys yng NghymruFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn cyfarfod am ddeuddydd yn Llandudno

Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn trafod ordeinio merched yn esgobion am y tro cyntaf ers i gynnig o blaid hynny gael ei wrthod yn 2008.

Fe fydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn cyfarfod am ddeuddydd yn Venue Cymru, Llandudno yr wythnos hon, ac mae ordeinio merched yn un o nifer o bynciau dadleuol fydd yn cael sylw.

Mae esgobion yr Eglwys wedi paratoi papur ymgynghorol fydd yn cael ei drafod gan grwpiau yn y gynhadledd sy'n dechrau ddydd Mercher.

Yn 2008, pleidleisiodd aelodau'r Corff Llywodraethol o fwyafrif bychan i wrthod cynnig fyddai wedi arwain at ordeinio merched yn esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru.

Pwnc arall fydd yn cael ei drafod yw'r weinidogaeth Gymraeg o fewn yr Eglwys.

Dim pleidlais

Ni fydd pleidlais ar ordeinio merched yn esgobion, ond fe fydd yr aelodau yn cwblhau holiadur am ddewisiadau posib ar y mater yngl欧n 芒 Bil i'w gyflwyno yn y dyfodol, ac fe fydd canlyniadau'r holiadur yn cael eu cyflwyno i esgobion ym mis Mehefin.

Wrth drafod y weinidogaeth Gymraeg, bydd y corff yn ystyried adroddiad dan y teitl Pob Un yn ei Iaith ei Hun a gomisiynwyd gan yr esgobion.

Y ddau bwnc arall i gael sylw fydd statws Masnach Deg a Chymorth Cristnogol, ond fe fydd y gynhadledd yn dechrau gydag anerchiad gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan am 11:00am fore Mercher.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol