AS yn galw am refferendwm Arglwyddi
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi galw am refferendwm am gynlluniau i gael aelodau etholedig i D欧'r Arglwyddi.
Mae disgwyl i gynlluniau fydd yn cael eu datgelu ddydd Llun argymell cyfnewid y T欧 uchaf gydag ail siambr o aelodau gyda'r mwyafrif wedi eu hethol trwy bleidlais.
Dywed AS Maldwyn, Glyn Davies, y gallai'r cynllun newid y modd y mae Prydain yn cael ei llywodraethu, gan ychwanegu na ddylid bwrw 'mlaen gyda'r cynllun heb refferendwm.
Mae'r cynllun yn rhan o'r cytundeb clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae gweinidogion am weld siambr sydd 芒 mwyafrif neu'r cyfan o'r aelodau yn etholedig, ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld y cynllun yn rhan o araith y Frenhines y mis nesaf.
Mae cyn arweinydd Llafur yn Nh欧'r Arglwyddi, Ivor Richard, wedi cadeirio pwyllgor o ASau ac arglwyddi i drafod y mater, ac fe fydd y pwyllgor yn datgelu manylion fore Llun.
Ond mae nifer o Geidwadwyr yn gwrthwynebu'r newid.
Un aelod
Credir mai dim ond un AS Ceidwadol oedd yn gefnogol i'r syniad mewn cyfarfod o Bwyllgor 1922 - pwyllgor aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr - mewn cyfarfod ddydd Iau.
Dywed Llafur eu bod yn gefnogol i Arglwyddi etholedig, ond am gael refferendwm ar y mater.
Dywedodd Mr Davies wrth siarad ar 大象传媒 Radio Wales ddydd Sul: "Rwy'n credu y dylwn ni fod yn barod i fwrw 'mlaen gyda'r cynllun, ond yn bersonol hoffwn weld refferendwm.
"Mae'n newid mawr i'r modd y mae Prydain yn cael ei llywodraethu, nid dim ond T欧'r Arglwyddi, ond T欧'r Cyffredin yn ogystal."
Doedd cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac Aelod Cynulliad Dwyrain De Cymru, yr Arglwydd German, ddim wedi ei argyhoeddi gan ddadl Mr Davies am refferendwm.
Dywedodd: "Wedi'r cwbl rydym yn ystyried newidiadau mawr i'r Alban ar hyn o bryd sydd ddim yn cynnwys refferendwm am gyfrifoldebau ariannol Yr Alban.
"Nid yw'r hyn sy'n digwydd yma yn mynd i newid y trefniadau sydd yna'n barod rhwng y ddau d欧.
"Rwy'n credu bod yr amser wedi dod lle dylai'r bobl sy'n creu ein deddfau gael eu hethol gan y bobl ac nid cael eu penodi gan arweinwyr y pleidiau ac eraill, ac rwy'n credu mai dyna'r cyfreithlondeb sydd angen ar unrhyw senedd."