大象传媒

Honiad am ymddygiad Aelod Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Keith Davies ACFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Keith Davies ei ethol yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf yn 2011 yn 70 oed

Mae enw Aelod Cynulliad wedi ei gyfeirio i Awdurdodau Safonau'r Cynulliad oherwydd honiadau am ei ymddygiad mewn gwesty pum seren yng Nghaerdydd yn oriau m芒n fore Mawrth.

Y gred yw bod Prif Chwip Llafur wedi cynghori Keith Davies, AC Llanelli, i adael y Senedd cyn sesiwn dydd Mawrth wedi iddo glywed am y pryderon.

Comisiwn y Cynulliad oedd yn talu am arhosiad Mr Davies yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi clywed am y digwyddiad honedig.

Nid oedd Mr Davies yn bresennol yn y Senedd yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth nac yn ystod pleidleisiau eraill ar ddeddfwriaeth a pholisi'r llywodraeth.

Ond dychwelodd i'r Senedd ddydd Mercher oherwydd cyfarfod preifat y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae unrhyw fater yn ymwneud ag ymddygiad Aelod Cynulliad Llafur yn ddifrifol a bydd y Prif Chwip yn ymchwilio'n drylwyr."

Noson allan

Cafodd ei ethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 yn 70 oed wrth iddo adennill y sedd i Lafur oddi wrth Plaid Cymru gyda mwyafrif o 80.

Roedd yn aros yng Ngwesty Dewi Sant lle mae nifer o ACau sy'n byw y tu allan i Gaerdydd yn aros pan mae'r Cynulliad yn cwrdd.

Wedi noson allan ddaeth i ben, yn 么l llygad-dystion, yn oriau m芒n fore Mawrth ym mar y Live Lounge yng nghanol Caerdydd, dychwelodd Mr Davies i'r gwesty cyn sesiwn gynta'r Senedd wedi gwyliau'r Pasg.

Yn gynharach, ymunodd 芒 nifer o ACau a ffigyrau gwleidyddol eraill i ddathlu pen-blwydd lob茂wr gwleidyddol.

Dywedodd Gwesty Dewi Sant nad oedd yn datgelu unrhyw wybodaeth am westeion ond y gred yw bod ffrae wedi bod arweiniodd at y gwesty yn cysylltu gyda Chomisiwn y Cynulliad i fynegi pryder am ei ymddygiad.

Ymchwiliad

Dywedodd llefarydd ar ran y comisiwn: "Mae staff y comisiwn yn cefnogi Aelodau Cynulliad yn ddyddiol mewn perthynas 芒'u hanghenion llety tra yng Nghaerdydd ar fusnes y Cynulliad.

"Mae Clerc y Cynulliad wedi cael gwybod am ddigwyddiad honedig yn ymwneud ag Aelod Cynulliad mewn perthynas 芒 llety y talwyd amdano gan y pwrs cyhoeddus.

"Er nad oes cwyn swyddogol wedi ei derbyn gan Glerc y Cynulliad mewn perthynas 芒'r digwyddiad, mae gofyn o dan Adran 9 Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 gyfeirio'r mater at Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad ar gyfer ymchwiliad.

"Ni fyddai'n briodol i'r comisiynydd wneud sylw pellach tan i'r ymchwiliad gael ei gwblhau."

Does dim awgrym bod yr heddlu wedi eu galw ar unrhyw adeg a dywedodd Heddlu'r De nad oedd ganddyn nhw gofnod o gael eu galw i unrhyw ddigwyddiad yn y gwesty naill ai nos Lun neu fore Mawrth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol