Pererindod i ddyn 80 mlwydd oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 80 mlwydd oed o Brestatyn wedi cychwyn ar bererindod 450 milltir o hyd.
Mae Don Whalley yn cerdded ar hyd Camino De Santiago de Compostela, taith sydd yn cychwyn ger Biarritz yn ne Ffrainc.
Bydd ei daith yn gorffen yng ngogledd orllewin Sbaen, yn eglwys gadeiriol Santiago.
Mae Mr Whalley am roi diolch am ei fywyd hir ac iachus.
"Gofynnodd ffrind i mi i wneud y daith ac roeddwn bob amser wedi eisiau ei gwneud ond nid oeddwn wedi sylweddoli ei bod yn 450 milltir," meddai Mr Whalley.
"Byddwn ni'n cerdded am chwech wythnos. Bydd yn brofiad da."
Dywedodd gwraig Mr Whalley, Lilian, ei bod wedi bod yn ymarfer am fisoedd.
"Dwi ddim yn meddwl ei fod yn sylweddoli ei fod yn 80 mlwydd oed," meddai Mrs Whalley, sydd wedi bod yn briod 芒'i g诺r am 55 mlynedd.
"Mae'n codi am 5.30 bob bore ac yn gwneud sesiwn o ioga cyn brecwast.
"Dwi'n meddwl y bydd yn gorffen y daith, ond iddo gael y bwyd cywir."
Ers ymddeol mae Mr Whalley, sydd 芒 phedwar o blant, wedi gwneud gradd mewn Celf.
Mae hefyd wedi teithio i Awstralia sawl gwaith ac i Alasga.
Gadawodd Mr Whalley ei gartref ym Mhrestatyn ddydd Llun ac fe wnaeth gychwyn ar ei bererindod ddydd Iau.
"Rydych yn dilyn ffordd ysbrydol a bydd rhywbeth ysbrydol yn dod allan ohono," meddai Mr Whalley.