Llafur yn ennill grym ym Merthyr, Blaenau Gwent a'r Fro
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur wedi ennill rheolaeth mewn nifer o gynghorau yn ne ddwyrain Cymru.
Maen nhw bellach y blaid fwyaf ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Merthyr Tudful
Mae'r Blaid Lafur wedi adennill rheolaeth o Gyngor Merthyr Tudful wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol golli'r pedair sedd oedd ganddyn nhw ar y cyngor.
Collodd yr ymgeisydd annibynnol Jeff Edwards, cyn-arweinydd y cyngor, ei sedd.
Roedd rhaid i unrhyw blaid ennill 17 sedd er mwyn cael mwyafrif ac fe wnaeth Llafur sicrhau 23 sedd.
Y gr诺p annibynnol oedd yn rheoli'r cyngor mewn clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 么l i'r Blaid Llafur golli rheolaeth lawn ar y cyngor yn 2008.
Fe enillodd y Blaid Lafur 13 o seddi wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau annibynnol golli seddi.
Collodd yr aelodau annibynnol union hanner y seddi oedd ganddyn nhw.
Mae trigolion Merthyr hefyd wedi cadw eu un cynghorydd UKIP oedd ganddyn nhw.
Canlyniad Merthyr Tudful:
Llafur - 23
Annibynnol - 9
UKIP - 1
Dywedodd AC Merthyr Tudful a Rhymni, Huw Lewis, bod y canlyniad yn "newyddion gwych".
"Mewn amser anodd mae angen cyngor gyda'r gwerthoedd cywir, y blaenoriaethau cywir a'r arweiniad cywir.
"Mae arweinydd Llafur yn y sir, Brendan Toomey, wedi arwain ymgyrch wych.
"Mae'r canlyniad yn brawf o'i arweinyddiaeth a gwaith caled yr holl ymgeiswyr ar hyd y sir."
Blaenau Gwent
Ym Mlaenau Gwent fe wnaeth y Blaid Lafur lwyddo i ennill rheolaeth y cyngor drwy ennill 17 o seddi yn fwy nag yr oedd ganddyn nhw yn 2008.
Aelodau annibynnol oedd wedi bod yn rheoli'r cyngor.
Roedd hon yn un cyngor yr oedd Llafur wedi gobeithio ei hennill.
Collodd Llafur reolaeth o'r cyngor am y tro cyntaf yn ei hanes yn 2008.
O ran aelodau etholedig i Fae Caerdydd a San Steffan bu aelodau annibynnol yn cynrychioli'r etholaeth cyn i Lafur adennill seddau oddi wrth Annibynnol yn 2010 a 2011.
Canlyniad Blaenau Gwent:
Llafur - 33
Annibynnol - 9
Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r Blaid Lafur wedi ennill rheolaeth o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y blaid wedi colli rheolaeth o'r cyngor yn 2008 i glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Ceidwadwyr ac Annibynnol.
Ond wedi is-etholiad fe wnaeth y blaid ad-ennill rheolaeth.
Llwyddodd Llafur i ennill 12 sedd wrth i'r Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau Annibynnol golli seddi.
Canlyniad Pen-y-Bont ar Ogwr:
Llafur - 39
Annibynnol - 10
Democratiaid Rhyddfrydol - 3
Ceidwadwyr - 1
Plaid Cymru - 1
Bro Morgannwg
Collodd arweinydd Ceidwadol y cyngor blaenorol, Gordon Kemp, ei sedd.
Mae'n un o nifer o gyn-arweinwyr sydd wedi colli eu seddi - all fod yn feirniadaeth o doriadau y mae'r cynghorau wedi eu hwynebu.
Cafodd Llafur enillion sylweddol yma, a bu ond y dim iddyn nhw gipio rheolaeth lwyr yn 么l oddi ar y Ceidwadwyr.
Er mwyn cael rheolaeth lawn ar y cyngor roedd angen ennill 24 sedd.
Y Ceidwadwyr oedd y blaid wnaeth ddiode' yma gan golli 14 sedd.
Canlyniad Bro Morgannwg
Llafur - 22
Ceidwadwyr - 11
Annibynnol - 7
Plaid Cymru - 6
UKIP - 1
Caerffili
Yng Nghaerffili mae un o ffigyrau amlwg gwleidyddiaeth Cymru, cyn-Ysgrifennydd Cymru Ron Davies, wedi colli ei sedd.
Cafodd ei ethol fel aelod annibynnol yn y cyngor blaenorol ond roedd yn sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru y tro hwn.
Mae cyn-arweinydd y cyngor, Allan Pritchard oedd hefyd yn aelod o Blaid Cymru, hefyd wedi colli.
Y Blaid Lafur sydd wedi ad-ennill mwyafrif ar y cyngor.
Canlyniad Caerffili:
Llafur -50
Plaid Cymru - 20
Eraill -3
Mynwy
Mae'r Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth ar Gyngor Mynwy.
Maen nhw dair sedd yn brin o'r 22 oedd ei angen i sicrhau rheolaeth.
Collodd Plaid Cymru eu hunig gynghorydd.
Canlyniad Mynwy:
Ceidwadwyr - 19
Llafur - 11
Democratiaid Rhyddfrydol - 10
Annibynnol - 3
Caerdydd
Wrth i Lafur gipio Caerdydd collodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ei sedd ym Mhlasnewydd.
Ceidwadwyr 7
Annibynnol - 5
Eraill 1
Llafur 46
Plaid Cymru 2
Casnewydd
Llwyddodd y Blaid Lafur i ennill rheolaeth o'r cyngor.
Canlyniad Casnewydd
Llafur -37
Ceidwadwyr - 10
Eraill - 2
Democratiaid Rhyddfrydol 1
Torfaen
Mae'r Blaid Lafur wedi cymryd rheolaeth y cyngor.
Llwyddodd y blaid i sicrhau 30 o seddi, 23 o seddi oedd y nifer oedd ei angen i ennill mwyafrif.
Aelodau Annibynnol oedd y collwyr mwyaf yn y sir.
Torfaen
Llafur - 30
Annibynnol - 8
Ceidwadwyr - 4
Plaid Cymru - 2
Rhondda Cynon Taf
Mae Llafur wedi dal eu gafael ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ond mae ei harweinydd ar y cyngor, Russell Roberts, wedi colli ei sedd.
Canlyniad Rhonnda Cynon Taf:
Llafur - 60
Plaid Cymru -9
Eraill - 4
Ceidwadwyr -1
Democratiaid Rhyddfrydol - 1