Ffenest newydd i gofio trychineb glofa Gresffordd

Ffynhonnell y llun, Vic Tyler Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae rhan uchaf y ffenest yn cynnwys lluniau o fywyd y lofa

Bydd ffenest i gofio 266 o lowyr a fu farw yn nhrychineb Gresffordd yn 1934 yn cael ei dadorchuddio nos Iau.

Mae perthnasau rhai o'r dynion a fu farw ymysg y rhai sydd wedi eu gwahodd i weld y ffenest am y tro cyntaf.

Bydd seremoni i gysegru'r ffenest yn cael ei chynnal gan y Parchedig Ganon David Griffiths, a oedd yn gyfrifol am osod murlun i gofio'r glowyr yn eglwys Gresffordd.

Mae'r llun ar ran uchaf y ffenest newydd yn gopi o'r murlun sydd yn cynnwys lluniau o hanes y lofa.

Yn ogystal, mae yna gysgodlen sydd ag enwau bob un o'r 266 bu farw arni.

Ffynhonnell y llun, Vic Tyler Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae enwau pob un o'r 266 a gollodd eu bywydau ar gysgodlen newydd

Yng nghanolfan treftadaeth y glowyr yn Llai y mae'r ffenest newydd wedi ei leoli.

Dywedodd Vic Tyler Jones o'r ganolfan bod y ffenest yn edrych yn wych.

"Rydyn ni'n disgwyl tua 25 o berthnasau'r dynion collodd eu bywydau i fynychu," meddai.

"Mae pobl yn gofyn pam rydyn ni wedi gwneud hyn.

"Y rheswm yw bod y ganolfan yma wedi ei sefydlu er mwyn peidio ag anghofio am dreftadaeth ein glofeydd.

"Trychineb Gresffordd oedd y trychineb gwaethaf i ddigwydd yng nglofeydd gogledd Cymru ac rydym yn mynnu na chaiff ei anghofio."

Dywedodd bod cryn ddiddordeb ymysg plant am stori'r trychineb.

"Mae'r diddordeb yno, maen nhw i gyd am wybod amdano," meddai.

"Bydd y ffenest yn goffa parhaol am beth ddigwyddodd."

Bydd y seremoni i gysegru'r ffenest yn cael ei chynnal am 7pm nos Iau 24 Mai.