大象传媒

Ffurfio tasglu Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cardiff airportFfynhonnell y llun, 大象传媒 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng 800,000 ers uchafswm o ddwy filiwn yn 2007

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi datgelu manylion tasglu i hybu "safle cystadleuol" Maes Awyr Caerdydd.

Daw hyn wedi i nifer y teithwyr trwy'r maes awyr ostwng 800,000 ers cyrraedd uchafswm o ddwy filiwn yn 2007.

Mae Mr Jones wedi galw ar berchnogion y maes awyr, Abertis, i fuddsoddi yn nyfodol y safle neu ei roi ar werth.

Ond dywedodd y cwmni Sbaeneg nad oedden nhw'n bwriadu ei werthu.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod tasglu Mr Jones yn "rhy ychydig, yn rhy hwyr".

Cyhoeddodd Mr Jones gynlluniau ar gyfer y tasglu fis diwetha', ond datgelodd mwy o fanylion ddydd Mawrth.

Beirniadaeth

Mae'r Prif Weinidog wedi anghydweld gydag Abertis yngl欧n 芒 pherfformiad y maes awyr a phythefnos yn 么l fe adawodd y rheolwr gyfarwyddwr Patrick Duffy ei swydd.

Mae Mr Jones hefyd wedi beirniadu Abertis am oedi wrth gyflwyno cynllun buddsoddi gwerth 拢26 miliwn a dywedodd fod y maes awyr yn rhoi argraff wael o Gymru ac nad oedd yn cystadlu'n llwyddiannus gyda meysydd awyr eraill.

Wrth gyhoeddi mwy o fanylion am dasglu'r maes awyr, dywedodd Mr Jones: "Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan annatod o'n hisadeiledd cenedlaethol.

"Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y maes awyr yn gwireddu ei botensial fel safle masnachol llwyddiannus sy'n gyfoes, cystadleuol a ffyniannus ac yn ffactor economaidd pwysig ac yn destun balchder i bobl Cymru.

"Dyna pam fis diwetha' fy mod i wedi cyhoeddi tasglu i edrych ar sut i wneud y mwya' o'r potensial."

Ychwanegodd y byddai'r tasglu'n edrych ar sut i wella safle cystadleuol y maes awyr trwy gydweithio rhwng y perchnogion, Llywodraeth Cymru, ynghyd 芒'r sector cyhoeddus a'r gymuned fusnes yn ehangach.

'Segura'

"Cyfrifoldeb y perchnogion yw rheoli Maes Awyr Caerdydd o ddydd i ddydd ond bydd y tasglu yn edrych ar ffyrdd o wella pethau, gan gynnig gwell synergedd, cefnogaeth a chydweithio i gyflawni amcanion cyffredinol," meddai Mr Jones.

Ond mae'r AC Ceidwadol Byron Davies, llefarydd y blaid ar drafnidiaeth ac adfywiad, wedi dweud: "Mae'r Prif Weinidog wedi segura wrth weld nifer y teithwyr yn gostwng ym Maes Awyr Caerdydd ers blynyddoedd ac wedi defnyddio pob cyfle posib i bardduo'i enw da fel unig faes awyr rhyngwladol Cymru."

"Mae ei gynnig i gadeirio tasglu yn rhy ychydig, yn rhy hwyr".

Wedi misoedd o feirniadu'r maes awyr, dywedodd Mr Davies y gallai fod yn anodd i Mr Jones weithio'n "adeiladol gyda'r cwmni a grwpiau eraill sydd 芒 diddordeb yn y safle."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol