大象传媒

Gwasanaeth ambiwlans yn difaru am oedi

  • Cyhoeddwyd
Frank Miles
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llithrodd Frank Miles ar ddec gwlyb a bu'n gorwedd wedi torri ei ben-gl卯n am dros dair awr a hanner

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod yn difaru am beidio cyrraedd pensiynwr oedd wedi torri ei ben-glin am dros dair awr.

Disgynnodd Frank Miles, 69 oed o Fagwyr, Sir Fynwy, yng ngwesty'r Waterloo yn dilyn cyfarfod o glwb rotari.

Cymrodd ambiwlans tair awr a 35 munud i gyrraedd a'i gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent oedd milltir i ffwrdd.

Nifer uchel iawn o alwadau oedd yn cael y bai gan y gwasanaeth ambiwlans, sy'n dweud eu bod yn ymchwilio i'r mater.

Llithrodd Mr Miles ar ddec pren yn y glaw wrth fynd i'w gar ar ddiwedd y cyfarfod brynhawn Mercher.

Daeth y cerbyd ymateb cyflym tair awr ac 20 munud wedi i aelodau'r clwb wneud y cyntaf o chwe galwad 999.

Roedd dau barafeddyg ar fwrdd ambiwlans a gyrhaeddodd chwarter awr yn ddiweddarach.

Defnyddiodd staff ymbar茅l, blancedi a chlustog i geisio cadw Mr Miles yn gyffyrddus wrth iddo aros, gan gadw'i goes ar focs cardfwrdd.

'Chwerthinllyd'

Dywedodd Mr Miles wrth bapur newydd lleol: "Mae'n chwerthinllyd bod rhaid aros mor hir pan ydych wedi brifo fel hyn.

"Rwy'n teimlo'n weddol erbyn hyn ond roedd yn teimlo'n amser hir iawn."

Dywedodd perchennog y gwesty, Bob Evans, wrth 大象传媒 Cymru: "Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans am beidio'i symud o gwbl felly doedd dim y medrwn ei wneud heblaw ei gadw'n gyffyrddus, ond roedd yn gorwedd yn y glaw."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn difaru'r amser a gymrodd hi i ymateb i'r alwad - galwad a ddaeth yn ystod cyfnod o nifer fawr o alwadau yn yr ardal.

"Er na fedrwn drafod manylion y claf, byddwn yn edrych i mewn i'r digwyddiad a byddwn yn annog y claf neu ei deulu i gysylltu 芒 ni'n uniongyrchol os ydynt am drafod eu pryderon."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol