大象传媒

Galw eto am bont dros Afon Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Pont dros Afon Dyfi, Machynlleth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bont yn cau yn aml oherwydd llifogydd

Ers blynyddoedd mae 'na alw am bont newydd i groesi afon yn y canolbarth ac wedi llifogydd dros y penwythnos mae 'na alw o'r newydd.

Yn aml, mae pont Afon Dyfi ger Machynlleth wedi cau oherwydd llifogydd ac mae cerbydau wedi ei difrodi.

Mae Maer Machynlleth, Gareth Jones, wedi galw am bont newydd wedi i'r un bresennol fod o dan dd诺r unwaith eto.

1,000

Effeithiodd llifogydd ar bentrefi a threfi gogledd Ceredigion, de Gwynedd a Phowys.

Achubodd y gwasnaethau brys 150 o bobl ac roedd 1,000 o bobl yr ardal wedi diodde' oherwydd y llifogydd ddigwyddodd yn ystod oriau m芒n bore Sadwrn.

Fe ddinistriwyd eiddo, cartrefi, carafanau a ffyrdd ym mhentrefi Tal-y-bont, Llandre, D么l-y-bont, Ynys Las, Borth, Penrhyn-coch, Pen-bont Rhydybeddau a Chapel Bangor.

Dywedodd Mr Jones fod Machynlleth wedi ei hynysu y rhan fwyaf o ddydd Sadwrn oherwydd y llifogydd a ffyrdd wedi cau.

'Miloedd o bunnoedd'

Roedd hon yn enghraifft arall, meddai, pam y dylai trigolion Dyffryn Dyfi gael pont newydd dros yr afon.

"Fe ddylai fod yn bellach i fyny'r afon na'r bont bresennol gyda ffordd sydd ddim yn osgoi'r dref," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario miloedd o bunnoedd yn codi rhwystrau i'w defnyddio yn achos llifogydd, ac eto'r tro cyntaf roedd angen eu defnyddio - fe fethwyd.

"Faint mwy o brawf sydd ei angen ar y llywodraeth fod eisiau datrys hyn?"

Yn ddiflino

Diolchodd y gwasanaethau brys a weithiodd yn ddiflino i gynorthwyo trigolion Dyffryn Dyfi.

"Roedd Machynlleth wedi ei hynysu ac roedd diffyg p诺er am y rhan helaeth o'r diwrnod wedi arwain at anrhefn a phroblemau i fusnesau," meddai.

"Ond dwi'n falch dweud bod pawb wedi dod at ei gilydd ac mae'n esiampl dda o gymeriad y dref.

"Mae Machynlleth wedi wynebu llifogydd sawl gwaith y flwyddyn am bron canrif ac felly yn cydymdeimlo gyda'n cymdogion mewn pentrefi fel Tal-y-bont a Llandre.

"Fe fyddwn yma i'w cynorthwyo nhw.

"Yn yr un modd fe wnaethom gynnig lloches i drigolion Pennal oedd yn gorfod gadael eu cartrefi ddydd Sul."