大象传媒

Defnyddio technoleg i hyrwyddo'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Bydd gr诺p o arbenigwyr yn trafod defnyddio technoleg er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg mewn seminar arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Llywodraeth Cymry sydd wedi trefnu'r seminar 'y Gymraeg, Technoleg a'r Cyfryngau Digidol' yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd yna gyflwyniadau ar sut mae busnesau'n defnyddio'r Gymraeg ar-lein; y Gymraeg yn y cyfryngau cymdeithasol a datblygu technoleg ar gyfer addysg Gymraeg

Un o'r cwestiynau fydd yn cael eu gofyn yw sut Sut mae sicrhau bod mwy o gynnwys, nwyddau a gwasanaethau digidol ar gael yn rhwydd i siaradwyr Cymraeg, ac yn cael eu marchnata iddynt?

Bydd y Gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, yn rhoi anerchiad i agor y digwyddiad.

"Rhaid i ddatblygiadau newydd yn y cyfryngau a thechnoleg, a chynnwys digidol, fod ar gael yn y Gymraeg os ydym am sicrhau ei bod yn cael ei hystyried yn iaith fyw a modern," meddai Mr Andrews.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol