Eisteddfod Llangollen yn lansio Llanfest
- Cyhoeddwyd
Eleni, am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod Llangollen yn arddangos doniau gorau'r ardal leol mewn g诺yl o fewn g诺yl.
Bydd LlanFEST yn dangos amrywiaeth o gerddoriaeth a dawns gan berfformwyr lleol ar brynhawn olaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Dywedodd trefnydd LlanFEST, Barrie Roberts: "Mae cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd yn dod i Langollen am wythnos pob blwyddyn i arddangos eu doniau creadigol.
"Sefydlu LlanFEST yw'r ffordd orau o roi blas i weddill y byd o'r dalent sydd gennym ni ei gynnig yn lleol."
Un o'r grwpiau fydd yn cymryd rhan yw Band Chwythbrennau Cymunedol Ysgol Dinas Br芒n.
Cynllun cymunedol sydd 芒 60 aelod rhwng 10-12+ oed, y mwyafrif o Ysgol Dinas Bran, yw'r band, sydd yn perfformio rhaglen amrywiol o Holst i Lady Gaga.
Ymhlith yr offerynwyr eraill fydd yn perfformio mae Harriet Earis, telynores Geltaidd.
Mae'r grwpiau fydd yn cymryd rhan yn cynnwys Subtheme, band egn茂ol pum aelod sy'n perfformio cyfuniad o ffync, disco a dawns, a Future Perfect, deuawd o ogledd Cymru sy'n chwarae cerddoriaeth electroneg.
Bydd Bethan Morgan, cantores o Langollen sydd wedi denu cynulleidfa eang ers symud i ddinas Birmingham, hefyd yn ymddangos.
Bydd y byd clasurol yn cael ei gynrychioli gan Gwmni Opera Llangollen.
Ffurfiwyd y cwmni yn 2010 ac mae'n cynnwys tua 15 aelod o berfformwyr profiadol sydd, ynghyd 芒'u Cyfarwyddwr Cerdd, Elen Mair Roberts, yn ceisio dod 芒 blas theatrig i'r achlysur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012