Symud cleifion o ysbyty 'er mwyn diogelwch'
- Cyhoeddwyd
Bydd cleifion ward yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn cael eu symud i Ward Morlais yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin er mwyn "sicrhau diogelwch cleifion a staff".
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu nad oes digon o staff cymwys i ddarparu "gofal priodol a diogel" ar ward Afallon yn Ysbyty Bronglais.
Y gred yw y bydd y newid yn effeithio ar tua 10 o gleifion yn y ward sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion sy'n gleifion mewnol.
Yn 么l y bwrdd iechyd, ni fydd neb yn colli swydd oherwydd i'r newidiadau.
Recriwtio
Ychwanegodd y bwrdd fod y penderfyniad oherwydd problemau parhaus o safbwynt recriwtio meddygol a phroblemau staffio.
Cafodd cleifion a staff eu trosglwyddo i Ward Morlais yn Ysbyty Glangwili am fis yn ystod mis Mawrth oherwydd gwaith cynnal a chadw ar Ward Afallon yn Ysbyty Bronglais.
"Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud pob ymdrech i gynnal y gwasanaeth, gan gynnwys ceisio recriwtio staff a gwella amgylchedd y ward ond nawr rhaid gweithredu mewn modd arall yn syth," meddai'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddwl, Karen Howell.
"Rhaid blaenoriaethu'r gallu i roi gofal a thriniaeth ddiogel i'n cleifion ac amgylchedd gwaith diogel i'n gweithlu.
"Mae ymgynghorwyr wedi adolygu'r cleifion ar y ward a bydd pecynnau gofal ar gyfer y rhai a all gael gofal yn y gymuned.
"Byddwn yn trosglwyddo'r rhai y mae angen gofal arnyn nhw yn yr ysbyty i'r gwasanaeth iechyd meddwl i gleifion mewnol a all roi'r gofal sydd ei angen yn Ward Morlais Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
'Monitro'r sefyllfa'
"Hoffwn ei gwneud hi'n gwbl glir nad yw'r symud yn rhan o'r ymgynghoriad ynglyn 芒 dyfodol gwasanaethau iechyd.
"Mater o ddiogelwch gweithredol yw hyn.
"Rydym mewn cysylltiad 芒'r cleifion, eu teuluoedd a'u cynhalwyr yn ogystal ag 芒 staff a'r Cyngor Iechyd Cymuned er mwyn sicrhau eu bod yn llawn deall yr angen am y symud hwn.
"Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n ofalus a pharhau i adolygu'r mater ond, oni bai ein bod yn gallu recriwtio staff meddygol a nyrsio 芒'r cymwysterau priodol i mewn i swyddi parhaol, byddwn yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar Ward Afallon."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda: "Rydym yn cydnabod natur frys y datblygiad hwn, yn cefnogi penderfyniad y bwrdd iechyd, ac yn deall nad yw'n gysylltiedig 芒'r cynllun strategol ehangach sy'n ymwneud 芒 strwythur gwasanaethau iechyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012