大象传媒

Tywysog Cymru'n dechrau ei daith haf yn Llanelwy

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw ar ddiwrnod cynta' eu taith haf yng Nghymru.

Fore Llun ymwelodd y ddau 芒 Chadeirlan Llanelwy cyn agor Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy.

Yna roedd cyfarfod 芒 mab y tywysog, William, yng Nghanolfan Awyrlu'r Fali yn Sir F么n.

Wedyn yn Aberystwyth mae'r ddau'n cwrdd 芒 dioddefwyr llifogydd y canolbarth y mis diwethaf.

Yn Llanelwy roedd y dorf, gan gynnwys plant ysgol, wedi ymgasglu ymhell cyn i'r p芒r gyrraedd ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch i ddathlu statws dinas newydd.

Cyrhaeddodd y ddau gyda gosgordd yr heddlu am 11:45am.

'Gwych'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn siarad 芒'r dorf yn Llanelwy fore Llun

Fe siaradon nhw gyda rhai o'r dorf cyn mynd i mewn i'r gadeirlan i gwrdd 芒 phobl leol.

Fe wnaethon nhw hefyd gwrdd ag aelodau o esgobaeth Llanelwy.

Dywedodd y cynghorydd dinas a sir, Dewi Owens, fod yr ymweliad yn "wych."

"Rydym yn hynod o falch eu bod yma. Mae pawb yn Llanelwy yn gwerthfawrogi hyn.

"Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn amlach rwan ein bod yn ddinas."

Bu Band Pres Sir Ddinbych - sydd ag aelodau rhwng wyth a 15 oed - yn chwarae wrth i'r p芒r brenhinol gyrraedd.

Dywedodd yr arweinydd, John Powell: "Mae'n fraint fawr ac yn wych i'r plant."

Cynnyrch Cymreig

Mae'r daith yn parhau am bedwar diwrnod.

Yn ystod gweddill y daith bydd y tywysog yn ymweld 芒 Chadeirlan Aberhonddu, marchnad fwyd yn Aberaeron, Ceredigion, a Bragdy Felinfoel, Llanelli.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House: "Mae hyrwyddo bwyd a chynnyrch Cymreig yn thema amlwg ar gyfer taith haf Tywysog Cymru a'r Dduges eleni.

"Maer' ddau yn awyddus i gefnogi bwyd Cymreig a chwmn茂au o Gymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol