Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyn-gadeirydd yn galw am 'ail-ddyfeisio mudiad iaith'
Mae cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod angen i'r mudiad iaith yn gyffredinol "ail-ddyfeisio" ei hun a "meithrin hyder a balchder" ymhlith siaradwyr Cymraeg.
Daw galwad Cynog Dafis, y cyn Aelod Seneddol a chyn Aelod Cynulliad, wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg baratoi ar gyfer penwythnos dathlu eu penblwydd 50 oed.
Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru dywedodd fod angen "mudiad eang ei wreiddiau gyda chefnogaeth gyffredinol i wthio'r agenda ymlaen".
Cafodd y mudiad iaith ei sefydlu yn 1962 fisoedd yn unig wedi araith Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis.
"Mae angen sicrhau bod pawb yn derbyn mai tyfu yw hanes yr iaith Gymraeg yn mynd i fod o hyn ymlaen," meddai.
'Peth arall'
"Mae angen parhau i bwyso. Un peth yw bod gan Lywodraeth Cymru strategaeth addysg, peth arall yw bod y strategaeth yn cyrraedd ei thargedau.
"Un peth yw bod ganddon ni strategaeth gyffredinol o ran datblygu'r Gymraeg mewn gwahanol feysydd, peth arall yw delifro.
"Mae angen mudiad eang ei wreiddiau, gyda chefnogaeth gyffredinol i wthio'r 'deliferi' hwnnw.
"Dwi'n credu bod angen math newydd o fudiad iaith yng ngoleuni'r realiti sydd ganddon ni erbyn hyn."
Gan fod y mudiad yn un tor-cyfraith, meddai, roedd cyfyngiadau wedyn ar faint o bobl allai fod yn weithgar.
"Gall fod tor-cyfraith mewn rhai amgylchiadau yn berthnasol yn y dyfodol ond nid dyna lle y dylai fod pwyslais ymgyrchu fod y dyddiau yma.
"Mae angen troi'r cyfan rownd a chreu mudiad sy'n hyderus ac yn eang iawn eu cefnogaeth."
Wrth ymateb i sylwadau Mr Dafis, dywedodd cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, y byddai'n croesawu mudiad arall.
'Cyfuno'
"Hyn a hyn y gall y Gymdeithas ei wneud, mae cymaint o frwydrau ...
"Dydi'r mudiad ddim yn mynd i droi cefn ar ddulliau gweithredu uniongyrchol ac yn mynd i barhau i wneud hynny pan yn briodol.
"Rydyn ni'n cyfuno hynny nawr gyda gwaith lob茂o.
"Dwi ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli cymaint o waith lob茂o yr ydyn ni'n ei wneud ac rydyn ni'n cyfuno hynny yn llwyddiannus.
"Fe fyddai unrhyw fudiad arall, beth bynnag y byddan nhw'n ei wneud, yn ychwanegu ac yn cryfhau'r mudiad iaith yn genedlaethol."
Dros y penwythnos fe fydd y Gymdeithas yn cynnal penwythnos arbennig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid lle bydd 50 o fandiau Cymraeg yn perfformio.