Trydaneiddio'r lein i Abertawe yn rhan o fuddsoddiad ehangach o 拢9bn
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi manylion cynllun i fuddsoddi 拢9 biliwn ar wella'r rheilffyrdd.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys trydaneiddio rheilffordd y Great Western o Lundain, yr holl ffordd i Abertawe.
Bydd rhan helaeth o reilffyrdd y cymoedd yn cael eu trydaneiddio hefyd gan gynnwys Glyn Ebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.
Mae ymestyn y cynllun o Lundain i Abertawe yn golygu cwtogi'r daith o 20 munud rhwng Paddington ac Abertawe.
Trydaneiddio
Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddodd y manylion fore Llun.
Mae gwleidyddion yn ystyried y cyhoeddiad yn 'hwb i'r economi'.
Mae Carwyn Jones a Carl Sargeant, y gweinidog 芒 chyfrifoldeb am drafindiaeth yng Nghymru wedi croesawu'r cyhoeddiad hefyd.
Dywedodd Mr Jones eu bod yn falch y bydd y rheilffordd yn cael ei drydaneiddio yr holl ffordd i Abertawe a bod rheilffordd y cymoedd hefyd yn mynd i elwa.
"Mae buddsoddi yn ein strwythur rheilffordd yn allweddol wrth edrych ar wella'r gystadlaeuaeth economaidd."
Ychwanegodd Mr Sargeant bod y newyddion am reilffordd y cymoedd y "cam cyntaf tuag at gwireddu fy ngweledigaeth am strwythur modern ar draws Cymru gyfan".
"Gallwn adeiladu ar hyn."
'Buddsoddiad'
Dywedodd Ms Gillan y byddai'r cynllun yn golygu y byddai 66% o boblogaeth Cymru yn medru teithio ar lein wedi ei thrydaneiddio o'u gorsaf leol.
"Bydd y cyhoeddiad yn golygu bod dros 拢350 miliwn yn cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol mewn isadeiledd rheilffyrdd Cymru ac mae'n dilyn y buddsoddiad o 拢1 biliwn i'r cynllun i drydaneiddio prif lein Great Western o Lundain i Gaerdydd a'r 拢500 miliwn fuddsoddwyd yn y ddolen orllewinol i Heathrow.
"Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd yn golygu y bydd Cymru'n elwa'n uniongyrchol ac anuniongyrchol o bron i 拢2 biliwn.
"Hwn yw'r cyhoeddiad isadeiledd mwyaf arwyddocaol i Gymru am ddegawdau."
Cyhoeddodd gweinidogion y llynedd y byddai'r brif lein yn cael ei thrydaneiddio mor bell 芒 Chaerdydd.
Ond roedd 'na feirniadaeth nad oedd yn cael ei ymestyn.
Ers cyhoeddiad y llywodraeth y pryd hynny mae 'na ymgyrchu brwd wedi bod gan wleidyddion a busnesau i geisio ymestyn y cynllun hyd at Abertawe.
Mwy o deithwyr
Ynghyd 芒 lleihau amseroedd teithio mae'r penderfyniad yn golygu y bydd modd rhedeg trenau hirach ar y lein i Abertawe.
Bydd gan y trenau newydd naw cerbyd yn lle wyth a bydd modd cludo mwy o deithwyr.
Mae'r cynllun yng Nghymru yn costio 拢350 miliwn a disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn 2017.
Ym mis Mai, daeth gr诺p o fusnesau a sefydliadau at ei gilydd yn Abertawe i gyflwyno'u dadleuon o blaid trydaneiddio, gan gynnwys Virgin Media, Virgin Atlantic, Admiral, Amazon, Prifysgol Abertawe a'r Post Brenhinol.
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Carl Sargeant, wedi dweud bod trydaneiddio lein y Great Western i Abertawe a leiniau'r cymoedd yn "hanfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011