大象传媒

Gorlifoedd sydyn yn taro rhannau o Bowys

  • Cyhoeddwyd
Flooding in TalybontFfynhonnell y llun, Sam Ebenezer
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llifogydd yn Nhalybont, Ceredigion, ym mis Mehefin

Mae gorlifoedd sydyn wedi taro rhannau o Ogledd Powys nos Wener.

Bu'n rhaid i Wasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddelio 芒 14 digwyddiad wnaeth effeithio ar dai yn hen siroedd Maldwyn a Maesyfed.

Yr ardaloedd gafodd eu heffeithio gwaethaf oedd Y Drenewydd, Ceri ger Y Drenewydd, Trefaldwyn a Threfyclo.

Cafodd diffoddwyr t芒n o'r Drenewydd, Y Trallwm, Llanfair Caereinion a Threfyclo eu hanfon i ddelio 芒'r llifogydd.

Monitro'r tywydd

Yn 么l y gwasanaeth d芒n roedd y llifogydd ar eu gwaethaf tua 6pm ac yr oedd diffoddwyr t芒n yn dal i ddelio 芒 phedwar digwyddiad am 8.30pm nos Wener.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr t芒n ddelio 芒 llifogydd ger Treffynnon yn Sir y Fflint nos Wener pan fu'n rhaid iddynt bwmpio d诺r o ffordd.

Yn gynharach ddydd Gwener cyhoeddodd Y Swyddfa Dywydd rybudd oren, y rhybudd uchaf, am law trwm yn y rhan fwyaf o Bowys a gogledd Sir Fynwy.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fe allai hyd hyd at 30mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr iawn a gallai hyn arwain at lifogydd lleol oherwydd draeniau'n gorlifo, a d诺r ar wyneb y ffyrdd.

Hefyd cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn o law ar gyfer dydd Gwener.

Roedd hwn yn effeithio ar siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir F么n, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir Y Fflint ac Ynys M么n.

Monitro

Dywedodd yr asiantaeth eu bod yn monitro'r tywydd a lefelau afonydd ac y bydden nhw'n cyhoeddi rhybuddion mwy penodol fel bo'r angen.

Eisoes mae swyddogion yr asiantaeth wedi bod yn gwirio'r amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Daeth rhybudd hefyd i bobl beidio 芒 cherdded na gyrru drwy dd诺r llifogydd, gan fod risg i iechyd.

Cyngor yr asiantaeth yw y dylai pobl wrando ar ddarllediadau tywydd am y wybodaeth ddiweddaraf yn eu hardaloedd nhw.

Gall pobl hefyd ymweld 芒 am wybodaeth neu ffonio'r llinell gymorth arbennig ar 0845 988 1188.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol