大象传媒

Prifysgol yn lansio app ar gyfer ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg yn pori
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr app yn helpu ffermwyr i reoli porfa eu da byw

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datblygu ei app masnachol cyntaf i'r sector ffermio.

Caiff 'farmGRAZE ei lansio'n swyddogol yn Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mawrth.

Dr Chrstianne Glossop, Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru, fydd y siaradwraig wadd.

Bydd yr app, sydd wedi ei seilio ar arbenigedd t卯m o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yn helpu ffermwyr i reoli pori eu da byw yn fwy effeithlon, gan arbed arian ar borthiant a gwrtaith.

Bydd yr app ar gyfer gwasanaethau android yn golygu y bydd ffermwyr yn gallu cyfrif faint o dir pori sydd ar gael i'w stoc, a hynny mewn cae penodol, neu ar draws eu fferm gyfan.

'Potensial masnachol'

Esboniodd Dr Rhian Hayward o Wasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori y Brifysgol bod yr app yn deillio o gystadleuaeth i'r staff a'r myfyrwyr y llynedd i droi syniadau o waith ymchwil yn app ar gyfer offer symudol.

"Mae'r brifysgol mewn sefyllfa gref i wireddu'r potensial masnachol yn ein technolegau a'n harbenigedd," meddai.

"Mae troi gwaith ymchwil yn gynnyrch a gwasanaethau masnachol yn bwysig i ni ac rwy'n si诺r y cawn weld llawer mwy o appiau yn cael eu datblygu yn y dyfodol."

Ar gael i ffermwyr y mae dwy fersiwn.

Bydd y fersiwn am ddim yn helpu ffermwyr i wella eu penderfyniadau rheoli, gan wellau eu tir pori ac yn cynnig cyngor ar reoli eu tir glas.

Bydd y fersiwn sydd ar werth yn cadw data mesuriadau gwair, plotio gwybodaeth am borfeydd ar ffurf graffiau, anfon gwybodaeth allan i'ch cyfrif e-bost ar ffurf taenlenni, a gosod nodiadau ar galendr ffonau poced i atgoffa defnyddwyr i wirio taldra'u gweiriau

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol