Hwb i'r cais am statws byd-eang i chwareli Gwynedd

Ffynhonnell y llun, Not Specified

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cynrychiolwyr gyfle i fynd i i Amgueddfa Lechi Cymru yn hen Chwarel Dinorwig yn Llanberis

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn trafod ag arbenigwyr sut i ennill statws Treftadaeth y Byd UNESCO i'r diwydiant llechi.

Oherwydd cynhadledd ym Mhlas Tan-y-bwlch cafodd cynrychiolwyr ICOMOS, Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleodd, gyfle i fynd i fwyngloddiau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog a'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis.

Mae ICOMOS, sy'n cynnwys arbenigwyr pensaern茂aeth, peirianneg, cynllunio, dylunio tirwedd ac archaeoleg, yn cynghori UNESCO am safleoedd Treftadaeth Byd.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, sy'n gyfrifol am yr economi, treftadaeth a thwristiaeth ar gabinet y cyngor: "Mi oedd y gynhadledd yn gyfle unigryw inni drafod pwysigrwydd y diwydiant llechi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

'Etifeddiaeth'

"Mi oeddan ni'n pwysleisio cyfraniad allweddol y diwydiant wrth greu a chynnal cymunedau Cymraeg a'i etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog ...

"Ac mi wnaethon ni ddangos pwysigrwydd llechi fel cynnyrch lleol yr ydan ni'n dal i'w ddefnyddio ac ymfalch茂o ynddo."

Roedd trafodaeth, meddai, am arwyddoc芒d byd-eang y diwydiant, sut y cyfrannodd at doi adeiladau ym mhedwar ban byd a throsglwyddo technolegau arloesol i wledydd eraill, yn enwedig Ffrainc a'r Unol Daleithiau.

"Roedd diddordeb cynrychiolwyr ICOMOS yn hanes ein diwydiant yn ein hannog i ddal ati i weithio i geisio am statws Treftadaeth y Byd."

Mae'r cais i gynnwys y diwydiant ar restr safleoedd posib eisoes wedi bod yn llwyddiannus.

'Proses hir'

"Rhaid sylweddoli mai'r cam cychwynnol cyntaf un yn unig yw hyn," meddai Mr Jones.

"Mae ennill statws Safle Treftadaeth y Byd am fod yn broses hir a chymhleth a bydd angen ymrwymiad ar bawb ohonon ni fel partneriaid i weithio efo'n gilydd i gyrraedd y nod."

Mae partneriaeth y cyngor, Amgueddfa Lechi Cymru, Comisiwn Henebion Brenhinol Cymru a Llywodraeth Cymru yn paratoi gwerthusiad technegol fydd yn cael ei gyflwyno i'r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon erbyn Hydref 2013.