大象传媒

Ffordd yr A55 wedi ail agor ar 么l i lori droi drosodd ger Bangor

  • Cyhoeddwyd

Mae rhan o'r A55 ger Bangor wedi ail agor nos Fercher ar 么l bod ar gau am dros 12 awr.

Cafodd y l么n ddwyreiniol ei hailagor am 8.30pm nos Fercher wedi i'r lori gael ei symud.

Cafodd y l么n orllewinol ei hailagor cyn 1pm ddydd Mercher.

Mae'r gwasanaeth t芒n wedi dweud bod un person wedi ei anafu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7:50am wedi i'r lori droi ar ei hochr ar y ffordd tua'r dwyrain rhwng Cyffordd 13 (Abergwyngregyn) a Chyffordd 14, gan rwystro'r traffig ar y ddwy l么n.

Cafodd y l么n tua'r gorllewin ei chau am gyfnod fel y gallai cerbydau'r gwasanaethau brys gyrraedd y safle ac mae llawer o ddisel wedi gollwng ar hyd y ffordd, ond mae'r lon bellach wedi ailagor i gyfeiriad Bangor.

Dywedodd Kenny Jones o Langefni: "Mi adewais i Langefni am 7.30 y bore 'ma gyda'r bwriad o fynd i Blackpool.

"Oherwydd y trafferthion mi wnes i aros am ddwy awr a hanner ... mi oedd pedwar o blant yn y car.

"Mi droais i rownd cyn mynd trwy Fetws-y-coed ond roedd y traffig yn ofnadwy.

"Yn y diwedd mi es i adra ... mi oeddwn i wedi talu mwy na 拢100 er mwyn mynd i'r traeth yn Blackpool."

Dywedodd Judy Barry o Ddyffryn Conwy: "Mi adewais i Gonwy am 10am oherwydd cyfarfod yng Nghaergybi.

"Yna mi es i ar yr A55 i gyfeiriad y gorllewin yng Nghonwy.

"Am 11am doedd y car ddim yn symud ac mi oeddwn i mewn rhes hir ym Mhenmaenmawr ond wedyn mi oedd goleuada traffig yn golygu mod i'n gallu cyrraedd cylchfan Llanfairfechan lle ces i gyfarwyddyd i fynd yn 么l ar yr A55, hynny yw o le yr oeddwn i wedi dod.

"A deud y gwir, mi wnes i wastraffu dwy awr ... mi fyddai arwydd neu gyfarwyddyd heddlu ar ffordd ymuno Gorllewn Conwy wedi fy stopio rhag ymuno 芒 thagfeydd ..."

Tagfeydd

Roedd cerbydau oedd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain yn cael eu dargyfeirio o gyffordd 11 o'r A55 (Llandygai/Bethesda) ar hyd yr A5 i Fetws-y-coed cyn ail-ymuno gyda'r A55 yng Nglan Conwy ar Gyffordd 19.

Penderfynodd yr Asiantaeth Priffyrdd gau twnnel Conwy er mwyn sicrhau na fyddai cerbydau'n mynd yn sownd.

Gan fod y traffig yn cael ei ddargyfeirio drwy Fetws-y-Coed a Llanrwst roedd tagfeydd difrifol yng nghanol tref Llanrwst ac roedd oedi hir wrth fynd i mewn i Fethesda wrth i draffig tua'r dwyrain gael ei ddargyfeirio o gyffordd 11 o'r A55 i lawr Dyffryn Conwy.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol