'Angen buddsoddiad ar yr A55' wedi trafferthion i yrwyr

Ffynhonnell y llun, Melfyn Clwyd Roberts

Disgrifiad o'r llun, Ar un adeg roedd 12 milltir o draffig ar 么l y ddamwain yn Abergwyngregyn

Ar 么l i ran o'r A55 ger Bangor fod ar gau am dros 12 awr ddydd Mercher, mae arweinydd busnes wedi galw am fuddsoddiad i atal hyn rhag digwydd eto.

Fe wnaeth lori droi drosodd ac fe wnaeth llawer o ddisel ollwng ar hyd y ffordd, gan rwystro'r traffig ar y ddwy l么n.

Ar un adeg roedd 12 milltir o draffig ar 么l y ddamwain yn Abergwyngregyn am 7:50am.

Dywedodd David Williams, cadeirydd Clwb Busnes Gogledd Cymru, na fyddai'r fath broblemau pe bai chwe l么n ar y ffordd.

"Mae'n hynod anffodus," meddai Mr Williams.

"Dwi'n si诺r bod miloedd o oriau gwaith wedi eu colli yn economi'r gogledd.

"Mae'n broblem fawr i'r gogledd.

"Pe bai'r ffordd wedi ei hadeiladu gyda chwe l么n, ni fyddai llawer o'r problemau hyn wedi digwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddai ehangu'r A55 i chwe l么n yn golygu lledu'r ffordd bresennol yr holl ffordd.

"Mae yna gyfyngiadau ar hyd rhannau o'r A55, pethau fel pontydd, twneli, eiddo, sy'n gwneud hyn yn anymarferol.

"Byddai lledu'r ffordd yn golygu prynu tir a byddai hynny'n ddrud iawn. Yng ngoleuni hyn, a'r hinsawdd economaidd bresennol, dyw'r opsiwn ddim yn cael ei ystyried yn un ymarferol."

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7:50am wedi i'r lori droi ar ei hochr ar y ffordd tua'r dwyrain rhwng Cyffordd 13 (Abergwyngregyn) a Chyffordd 14. Cafodd un person ei anafu.

Tagfeydd

Roedd cerbydau oedd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain yn cael eu dargyfeirio o gyffordd 11 Llandygai/Bethesda ar hyd yr A5 i Fetws-y-Coed cyn ail-ymuno gyda'r A55 yng Nglan Conwy ar Gyffordd 19.

Penderfynodd yr Asiantaeth Priffyrdd gau twnnel Conwy er mwyn sicrhau na fyddai cerbydau'n mynd yn sownd.

Gan fod y traffig yn cael ei ddargyfeirio drwy Fetws-y-Coed a Llanrwst roedd tagfeydd difrifol yng nghanol Llanrwst.

Roedd oedi hir wrth fynd i mewn i Fethesda wrth i draffig tua'r dwyrain gael ei ddargyfeirio o gyffordd 11 o'r A55 i lawr Dyffryn Conwy.

"Mi adewais i Langefni am 7.30 y bore gyda'r bwriad o fynd i Blackpool," meddai Kenny Jones o Langefni.

"Oherwydd y trafferthion mi wnes i aros am ddwy awr a hanner ... mi oedd pedwar o blant yn y car.

"Mi wnes i droi cyn mynd trwy Fetws-y-Coed ond roedd y traffig yn ofnadwy.

"Yn y diwedd mi es i adra ... mi oeddwn i wedi talu mwy na 拢100 er mwyn mynd i'r traeth yn Blackpool."