大象传媒

Llifogydd Ceredigion: Ap锚l yn cyrraedd 拢100,000

  • Cyhoeddwyd
Parc Carafanau Riverside ger Llandre, Aberystwyth,Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Difrod sylweddol: Yr effaith ar Barc Carafanau Riverside ger Llandre, Aberystwyth, ym Mehefin

Mae Cronfa Ap锚l Arweinydd Cyngor Ceredigion ar gyfer dioddefwyr llifogydd gogledd Ceredigion wedi cyrraedd cyfanswm o bron 拢105,000.

Derbyniodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y rhoddion diweddaraf ddydd Iau ac yn 么l y cyngor, bydd y sieciau cynta'n cael dosbarthu'r wythnos nesaf.

Ym mis Mehefin effeithiodd y llifogydd ar fwy na 1,000 o bobl, gan achosi difrod sylweddol i dai ac eiddo.

Yn 么l adroddiad Cyngor Ceredigion, yr achos glaw trwm yn syrthio ar dir soeglyd am gyfnod hir.

Ffynhonnell y llun, Ceredigion council
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Derbyniodd Ellen ap Gwynn y rhoddion diweddara' ddydd Iau

Roedd Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dol-y-Bont, Capel Bangor, Llanbadarn Fawr a Llandre ymysg yr ardaloedd ddioddefodd oherwydd y glaw trwm Mehefin 8 a 9.

Clywodd rhai o'r teuluoedd na fydden nhw'n gallu dychwelyd i'w tai am hyd at chwe mis.

Dywedodd arweinydd y cyngor: "Mae haelioni pobl Ceredigion, ynghyd 芒 chyfraniadau gan unigolion a mudiadau o du allan i'r ardal, wedi bod yn rhyfeddol.

'Yn ddiflino'

"Mae'r cyngor wedi derbyn sieciau am symiau rhwng 拢3 a 拢24,000 ar gyfer y Gronfa Ap锚l ac mae pobl yn dal i roi rhagor o arian.

"Rwy' wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r panel ymgynghorwyr benodwyd wrth lunio canllawiau ar gyfer dosbarthu'r arian i'r bobl sydd ei angen ac mae help y panel wedi bod yn hollbwysig.

"Mae swyddogion y cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino yn yr ardaloedd dan sylw er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod am bawb sydd wedi colli eiddo.

"... a byddwn ni'n yn dal i weithio gydag unigolion a chymunedau am gryn dipyn o amser eto."

Cafodd adroddiad yr ymchwiliad y cyngor sir i'r llifogydd ei gyflwyno i gabinet yr awdurdod lleol ddydd Mawrth.

Dywedodd yr adroddiad y gallai cymunedau mewn perygl o lifogydd yng Ngheredigion orfod cyfrannu tuag at amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y dyfodol.

Bydd y Gronfa Ap锚l ar agor tan Fehefin 8, 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol