Bwrdd yn manylu ar newidiadau iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i'r Gwasanaeth Iechyd yng ngorllewin Cymru.
O dan y cynlluniau byddai Uned Ddamweiniau Brys Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cau a "chanolfan ddamweiniau leol" o dan ofal nyrsys yn ei lle.
Yn 么l y bwrdd iechyd, gallai 80% o'r achosion sy'n mynd trwy ddrysau'r uned ddamweiniau gael eu disgrifio fel 'm芒n anafiadau'.
O'r wyth ysbyty cymunedol yn yr ardal gallai tri gau - sef Mynydd Mawr ger Y Tymbl (28 gwely), Tregaron (12 gwely) ac Aberaeron.
Yn ogystal byddai gwasanaethau yn diflannu o ddau ysbyty arall yn Ninbych-y-pysgod a Doc Penfro - gan gynnwys yr unedau m芒n anafiadau - gyda meddygon teulu yn gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw.
Arbedion
Yn 么l y bwrdd iechyd, byddai hyn yn arwain at 拢3.3m o arbedion ac maen nhw'n addo buddsoddi 拢40m yn ychwanegol ar gyfer canolfannau cymunedol yn Aberaeron, Aberteifi, Caerfyrddin, Cross Hands, Crymych a Hendy-gwyn ar Daf.
Gallai gwasanaethau orthopedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro gael eu canoli yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cyfeirio at sefydlu canolfan dementia newydd gyda 15 o welyau, a chanolfan arbenigol ar gyfer gofal canser y fron yno.
Y bwriad yw parhau 芒 gwasanaethau obstetreg ymgynghorol yn Ysbytai Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg.
Ond gallai gwasanaethau gofal dwys i blant gael eu canoli yng Nglangwili.
Dywedodd y rheolwyr y gallai'r newidiadau arwain at leihad o 20% mewn gwelyau tymor byr a byddai'n golygu darparu 80% o wasanaethau iechyd y gorllewin yn y gymuned.
拢14.8尘
Bydd canolfan gymunedol yn cael ei hagor mewn ysbyty newydd yn Aberteifi a'r gwaith adeiladu yn dechrau'r flwyddyn nesa'.
Bydd trafodaethau ar sut i ddatblygu'r gwasanaeth Ambiwlans Awyr allai olygu uwchraddio hofrenyddion fel eu bod yn "gallu hedfan ym mhob tywydd".
Dywedodd y bwrdd iechyd y byddai'r "ailfodelu" yn arwain at werth 拢14.8尘 o arbedion yn eu costau erbyn 2015-16 ar ben arbedion effeithlonrwydd o 拢20m y flwyddyn.
Yn 么l y bwrdd, byddai'r cynlluniau'n "rhoi diwedd ar yr angen am gymorth strategol gan Lywodraeth Cymru ac yn caniat谩u'r bwrdd i fyw o fewn ei gyfanswm cyllid."
Bydd y cynlluniau nawr yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 12 wythnos.
Byddai israddio'r uned ddamweiniau yn Ysbyty Tywysog Phillip yn si诺r o beryglu bywydau cleifion, yn 么l un o gynghorwyr Plaid Cymru sy'n gweithio yno.
30,000
Dywedodd y Cynghorydd Sir Gwyneth Thomas, sy'n nyrsio yn yr uned: "Fe wnaeth yr uned drin dros 30,000 o gleifion y llynedd.
"Ble bydd pobl yn mynd i gael triniaeth frys yn y dyfodol? Mae'r unedau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Treforys, Abertawe eisoes yn cael trafferth ymdopi 芒'r galw presennol.
"Rwy'n hynod siomedig nad oes unrhyw sylw wedi ei gymryd o bryderon dwfn pobl Llanelli - gan gynnwys y 24,000 a lofnododd ddeiseb yn gwrthwynebu israddio'r uned."
Ond mae'r bwrdd wedi dweud na fydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno tan ei bod yn "ddiogel a phriodol i wneud hynny."
Gallai rhai newidiadau ddod i rym erbyn canol 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2011