Profiad gwych i Chris Coleman 芒'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Roedd Chris Coleman, rheolwr t卯m p锚l-droed Cymru ar Faes Bro Morgannwg 2012 ddydd Gwener.
Yno y cafodd carfan Cymru ei henwi i wynebu Bosnia-Herzegovina nos Fercher yn Llanelli.
Dyma ymweliad cyntaf y Cymro o Abertawe 芒'r Eisteddfod ac roedd wedi ei synnu gan y cyfan.
"Dwi wedi fy synnu, doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd ar y fath raddfa, mae'n wirioneddol wych," meddai.
Dywedodd iddo gael cyfle i weld dau gyn-b锚l-droediwr arall fore Gwener yn cael eu hurddo i'r Orsedd.
"Roedd yn braf gweld John Hartson ac Iwan Roberts yn derbyn eu hanrhydedd.
"Mae maint y cyfan yn anghredadwy a'r awyrgylch yn arbennig iawn.
"Mae'n braf gweld pawb yma yn dathlu gwahanol ddiwylliannau ein cenedl.
"Dwi wir wedi mwynhau."
Perthynas
Cychwynnodd siarad yn y Gymraeg gan ei fod erbyn hyn yn dysgu'r iaith.
"Dwi'n dysgu Cymraeg, braf bod yma, diolch yn fawr," meddai cyn troi i ateb gweddill y cwestiynau yn Saesneg.
Dywedodd bod Team GB wedi bod a mynd a'i fod nawr am ganolbwyntio ar Gymru ac ar y g锚m yn erbyn Bosnia.
"Rhaid canolbwyntio ar garfan Cymru ac ar y gemau nesaf, y gemau fydd yn werth pwyntiau i ni.
"Wedi dweud hynny fe wnaeth ein bechgyn yn dda iawn gyda Team GB."
Cychwynnodd perthynas Cymdeithas B锚l-Droed Cymru a'r Eisteddfod y llynedd yn Wrecsam pan gafwyd stondin ar y Maes.
Yno hefyd y cyhoeddodd Gary Speed, y rheolwr ar y pryd, ei garfan i wynebu Awstralia.
Dywedodd Ian Gwyn Hughes o'r Gymdeithas bod hyn yn dangos nad yw'r Gymdeithas yn gorff sy'n eistedd y tu 么l i bedair wal yng Nghaerdydd ond yn mynd allan i gymunedau ac at y cyhoedd.
"Ni hefyd dwi'n credu yw'r unig gorff chwaraeon cenedlaethol sy'n cefnogi'r holl ddigwyddiadau dros yr haf.
"Roedden ni'n Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, a'r Sioe Frenhinol.
"Mae'n bwysig i ni gael presenoldeb yma."
Fe wnaeth Osian Roberts, cynorthwyydd i Coleman, ategu'r geiriau gan ddweud ei bod yn "holl bwysig bod y Gymdeithas yn weladwy".
"Mae 'na lot o waith da wedi ei wneud yn y gorffennol ond mae'n bwysig ein bod ar y Maes a dangos ein bod yn agos at ein cynulleidfa yn y gobaith o ddenu'r dorf i wylio'r t卯m.
"Mae'n bwysig cael y dorf mae'r t卯m yn ei haeddu mewn gemau gan eu bod wedi gwella cymaint dros y 18 mis diwethaf."